Ysgol Pant-y-Rhedyn

Ysgol gynradd ddwyieithog yn nhref Llanfairfechan, Sir Conwy,[1] gogledd Cymru, yw Ysgol Pant-y-Rhedyn. Mae'n gorwedd yn nhalgylch Ysgol Friars, Bangor, ond mae rhieni yn gallu dewis anfon eu plant i Ysgol Aberconwy hefyd.

Mae plant y dref yn dechrau ar eu haddysg yn yr Ysgol Babanod (plant llai, hyd flwyddyn 2) cyn symud i Ysgol Pant-y-Rhedyn (blwyddyn 3-6). Adeilad cymharol newydd yw'r ysgol, a grëwyd pan aeth adeilad yr Ysgol Babanod bresennol, sy'n hen, yn rhy fychan. Mae'n gorwedd bron yng nghanol y dref.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Swyddogol yr ysgol; adalwyd 17 Mawrth 2013". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-22. Cyrchwyd 2013-03-17.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.