Ystrad Mynach

tref yng Nghymru

Tref yng nghymuned Gelli-gaer, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Ystrad Mynach. Saif ar briffordd yr A472. Saif yng Nghwm Rhymni. Mae Caerdydd 18.4 km i ffwrdd o Ystrad Mynach ac mae Llundain yn 217.3 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 18 km i ffwrdd.

Ystrad Mynach
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6419°N 3.2405°W Edit this on Wikidata
Cod OSST145945 Edit this on Wikidata
Cod postCF82 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHefin David (Llafur)
AS/auWayne David (Llafur)
Map

Cyn y Chwyldro Diwydiannol a dyfodiad y gwaith glo roedd yr ardal yn dir amaethyddol gyda nifer o ffermydd.[1] saif yng nghymuned Gelligaer.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).[3]

Tarddiad yr enw golygu

Ystyr "ystrad" yw "llawr" neu waelod dyffryn; mae'r "ach" ar y diwedd yn awgrymu tir gwlyb neu gors a cheir enghreifftiau gerllaw e.e. Llanbradach a Llancaiach. O'r geiriau Ystrad-Man-Ach y daw'r gair, felly, ac nid o'r gair Cymraeg "Mynach".[4] Cyn codi cloddiau pwrpasol yn y 1960au arferai'r dref gael cryn dipyn o lifogydd.

Adeiladau a hanes golygu

Ceir yn y dref nifer o adeiladau'r cyngor lleol a Choleg Ystrad Mynach, coleg a sefydlwyd yn 1959 i hyfforddi ac ail hyfforddi glowyr lleol. Mae tua 12,000 ar gofrestr y coleg erbyn heddiw.

Mae Glofa Penallta ger y dref, sef y lofa olaf yn y cwm i gau. Ceir yma hefyd orsaf reilffordd a agorwyd yn 1890 a cheir hefyd traffont, cerflun i goffau'r etifeddiaeth ddiwydiannol, ysbyty cymunedol, nifer o ysgolion a thafarnau: y Cooper Arms a'r Royal Oak.

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Gwefan Geograph; adalwyd 14/08/2012
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Gelligaer Urban District Council (1959). The Gelligaer Story. Cyngor Dosbarth Gelligaer.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato