"Bugs" Moran

gangster o Chicago

Gangster (neu ddihiryn) o Chicago, yr Unol Daleithiau (UDA), oedd George Clarence "Bugs" Moran (21 Awst 189125 Chwefror 1957).

"Bugs" Moran
GanwydAdelard Cunin Edit this on Wikidata
21 Awst 1893 Edit this on Wikidata
Saint Paul Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1957 Edit this on Wikidata
United States Penitentiary, Leavenworth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cretin-Derham Hall High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethlleidr banc, gangster Edit this on Wikidata
George Clarence "Bugs" Moran

Adelard Cunin oedd ei enw'n wreiddiol pan gafodd ei eni yn St. Paul, Minnesota. Roedd ei rieni yn fewnfudwyr o Wlad Pwyl ac Iwerddon. Pan arestiwyd ef am y tro cyntaf, galwodd ei hun yn "George Miller." Symudodd i Chicago pan oedd yn 19 oed a chysylltwyd ef yn fuan iawn gyda gangiau. Fe'i carcharwyd deirgwaith cyn iddo fod yn 21. Un tro pan gafodd ei arestio, yn hytrach nac ailddefnyddio enwau a oedd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, dywedodd mai ei enw oedd George Clarence Moran. Glynnodd yr enw hwn (Moran) wrtho am weddill ei oes.

Roedd yn casau'r Eidalwyr - gangiau Al Capone ayb - gan eu galw'n "greaseballs" ac yn "dagos". Roedd hyn yn ffyrnigo'i elynion. Fel Pabydd da, roedd Moran yn gwrthod rhedeg hwrdai, gan sbio i lawr ei drwyn ar Capone, yn baeddu ei ddwylo gyda rhwydwaith o buteindai. Dyfnhaodd yr elyniaeth rhwng y ddau gangster.

Bu farw yng Ngharchar Leavenworth ar 25ain Chwefror, 1957.