Puteindy
Sefydliad lle ymarferir puteindra, sy'n cynnig lle i buteiniaid gwrdd â'u cwsmeriaid a chael rhyw gyda nhw yw puteindy (hefyd: hwrdy, brothel, bordel, bordello). Mae puteindai yn gyfreithlon mewn rhai gwledydd, ac mewn gwledydd eraill mae safleoedd eraill, e.e. parlyrau tylino, yn cael caniatad i weithio fel puteindai; mewn rhai gwledydd eraill mae puteindai yn anghyfreithlon neu'n cael eu hanwybyddu gan y gyfraith. Mewn rhai gwledydd mae puteindai yn cael eu cyfyngu i ardaloedd arbennig, e.e. ardaloedd golau coch.
Mae'n debyg fod hanes puteindai bron mor hen â phuteindra ei hun, "yr alwedigaeth hynaf yn y byd". Mae enghreifftiau cynnar yn cynnwys yr arfer o buteindra mewn temlau arbennig yn yr Henfyd, yn enwedig yn y Dwyrain Canol.
Erbyn cyfnod gwareiddiadau Rhufain a Groeg, roedd puteindai yn sefydliadau cyffredin, ac weithiau yn gweithio dan drwydded; cofnodir yr enghraifft gynharaf yn Athen yn 594 CC. Cafodd ei sefydlu gan Solon er lles y ddinas er mwyn cadw trefn ar dramorwyr a chael pres i'r pwrs cyhoeddus. Yn ddiweddarach sefydlwyd math o ysgolion arbennig lle dysgai puteiniaid (o ferched caeth i'r hetiroi soffistigedig) eu crefft.
Ceir sawl dull o redeg puteindy. Mewn rhai mae'r merched yn cael eu cadw yno yn erbyn eu hewyllys, mewn cyflwr sy'n debyg i gaethiwed, ond mewn sawl gwlad mae puteindai yn rhan o'r diwylliant ac mae'r merched yn gallu gweithio yn annibynnol gan dalu am y gyfleusdra o gael lle i gwrdd a'u cwsmeriaid.
Yn Ffrainc mae gan buteindai hanes hir. Ceir sawl math yn draddodiadol, yn cynnwys y maison close, lle telir cyflog i'r puteiniaid sy'n cadw hefyd gyfran o ffi y cwswmer, a'r maison de passe, lle mae'r butain yn talu ffi i berchennog y bordel. Roedd y fyddin Ffrengig yn arfer cael puteiniaid i'w chanlyn, wedi eu trefnu yn "sgwadau" fel petaent yn rhan o'r fyddin: yr enw swyddogol oedd Bordels Mobiles de Campagne, ond yr enw ar lafar oedd "la boîte à bonbons" ("blwch melysion").