¿Por qué no te callas?
Brawddeg dywedodd Juan Carlos, brenin Sbaen, ar 10 Tachwedd 2007, i Hugo Chávez, Arlywydd Feneswela, yn Uwchgynhadledd Ibero-Americanaidd 2007 a gynhaliwyd yn Santiago, Tsile, oedd ¿Por qué no te callas? (Cymraeg: Pam na wnei di gau lan?). Daeth yr ymadrodd yn un boblogaidd mewn byr o dro, wrth ennill statws cwlt fel tôn galw ffonau symudol, enw parth, cystadleuaeth, crysau-T, a fideos ar YouTube.
Y digwyddiad
golyguDywedodd y Brenin Juan Carlos y frawddeg pan oedd Chávez yn torri ar draws araith Prif Weinidog Sbaen José Luis Rodríguez Zapatero drosodd a throsodd wrth alw rhagflaenydd y Prif Weinidog, José María Aznar, yn "ffasgydd" ac yn "llai dynol na nadroedd",[1] ac yn ei gyhuddo o gefnogi coup d'état a fethodd yn 2002 oedd â'r nod o ddymchwel Chávez o rym.
Er gwaethaf i ficroffon Chávez gael ei ddiffodd, parhaodd i dorri ar draws Prif Weinidog Rodríguez Zapatero wrth i Zapatero amddiffyn ei ragflaenydd (oedd yn wrthwynebwr gwleidyddol iddo). Cythruddwyd Chávez hefyd gan awgrymiad Rodríguez Zapatero bod angen i America Ladin atynnu mwy o gyfalaf tramor i ddelio â'i thlodi parhaol, sy'n groes i ddaliadau adain-chwith Chávez sy'n gochel buddsoddiad allanol.[1][2] Croesawyd cerydd y Brenin gyda churo dwylo gan y gynulleidfa gyffredinol.[2] Yn fuan ar ôl hyn, gadawodd y neuadd ar ôl i Arlywydd Nicaragwa Daniel Ortega gyhuddo Sbaen o ymyrryd mewn etholiadau yn Nicaragwa, a chwynodd am bresenoldeb cwmnïau ynni Sbaenaidd yn ei wlad. Mae'r digwyddiad yn ddigynsail, gan nad yw'r Brenin erioed wedi dangos y fath ddicter yn gyhoeddus.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Shut up, Spain's king tells Chavez. BBC (10 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2007.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Padgett, Tim (12 Tachwedd 2007). Behind the King's Rebuke to Chávez. Time. Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2007.
- ↑ (Sbaeneg) Tabar, Carmen (10 Tachwedd 2007). Nunca se había visto al Rey tan enfadado en público. El Periódico de Catalunya. Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2007.