José Luis Rodríguez Zapatero
Cyn-Prif Weinidog Sbaen yw José Luis Rodríguez Zapatero ( [[:Media:Es-José_Luís_Rodríguez_Zapatero.oga|/xose'lwis ro'ðɾigeθ θapa'teɾo/]] ) (ganwyd 4 Awst, 1960). Enillodd y blaid mae'n ei arwain, Plaid Gweithwyr Sosialaidd Sbaen, etholiadau cyffredinol ar 14 Mawrth, 2004 a 9 Mawrth, 2008. Ymhlith gweithredoedd ei lywodraeth gyntaf oedd cilio lluoedd Sbaen o Irac, cynnal trafodaethau dadleuol gyda'r mudiad ymwahanaidd Basgaidd ETA, creu llysoedd i ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cyfreithloni priodas gyfunryw, a chyflwyno rhaglen amnest ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon.
José Luis Rodríguez Zapatero | |
| |
Cyfnod yn y swydd 17 Ebrill 2004 – 21 Rhagfyr 2011 | |
Teyrn | Juan Carlos I |
---|---|
Rhagflaenydd | José María Aznar |
Olynydd | Mariano Rajoy |
Cyfnod yn y swydd 1 Gorffennaf 2000 – 17 Ebrill 2004 | |
Prif Weinidog | José María Aznar |
Rhagflaenydd | Joaquín Almunia |
Olynydd | Mariano Rajoy |
Geni | Valladolid, Castilla y León, Sbaen | 4 Awst 1960
Plaid wleidyddol | Plaid Gweithwyr Sosialaidd Sbaen |
Priod | Sonsoles Espinosa |