Inis Mór
Inis Mór neu Árainn Mhór (Saesneg: Inishmore, yw'r fwyaf o Ynysoedd Arann ym Mae Galway, Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan yr ynys arwynebedd o 31 km² (12 mi²).
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Kilronan |
Poblogaeth | 845 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Arann |
Sir | Contae na Gaillimhe |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 31 km² |
Uwch y môr | 123 metr |
Gerllaw | Bae Galway |
Cyfesurynnau | 53.1236°N 9.7275°W |
Hyd | 14 cilometr |
Yr hen enw at yr ynys oedd Árainn Mhór, wedi ei Seisnigo i Aranmore, ond gan fod hyn yn peri dryswch gydag Arranmore, Swydd Donegal, newidiwyd yr enw i Inis Mór ("Ynys Fawr").
Mae'r ynys yn un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg a'i diwylliant, ac mae'n rhan o'r Gaeltacht. Ceir nifer o henebion nodedig yma, yn arbennig Dún Aengus, caer o Oes yr Haearn. Oherwydd hyn, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Cysyllrir yr ynys a'r tir mawr gan fferi Aran Direct o Rossaveal ac mae cwmni Aer Arann yn hedfan yno.
Ar Inis Mór y ganed y llenor Liam O'Flaherty, ac mae ei blentyndod yno yn sail i lawer o'i waith. Y dref fwyaf yw Kilronan.