Enw Gwyddeleg yw'r Gaeltacht (ynganiad: /ˈgeːɫ̪t̪ˠəxt̪ˠ/; lluosog Gaeltachtaí) am yr ardaloedd yn Iwerddon lle siaredir Gwyddeleg fel y brif iaith, neu fel iaith gymunedol naturiol. Nifer o ardaloedd gwledig wedi'u gwasgaru ar draws saith o siroedd ydyw.

Gaeltacht
Mathrhanbarth, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1926 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Lleoliad y Gaeltachtaí yn Iwerddon.

Mae'r Gaeltachtaí mwyaf yn siroedd Dún na nGall (Saesneg: Donegal), a Gaillimh (Saesneg: Galway). Mae ardaloedd Gaeltacht llai yn siroedd Maigh Eo (Saesneg: Mayo), Corcaigh (Saesneg: Cork), Ciarraí (Saesneg: Kerry), pentref An Rinn yn Port Láirge (Saesneg: Waterford) ac ardal fach Ráth Cairn yn an Mhí (Saesneg: Meath).

Mae gan yr ardaloedd Gaeltacht gydnabyddiaeth swyddogol (arwyddion ffordd uniaith Wyddeleg ayb.) ond mae'r Gaeltacht swyddogol yn cynnwys rhai ardaloedd sydd wedi troi yn Saesneg erbyn hyn.

Gaeltacht Ddinesig Belffast

golygu

Yn 1969 cychwynnodd criw o gyfeillion ac eiriolwyr dros yr iaith Wyddeleg, ymdrech i sefydlu Gaeltacht yng nghannol dinas Belffast. Seiliwyd y mudiad o amgylch ardal Shaw's Road yng Ngorllewin Belffast. Yn 1971 sefydlwyd ysgol gynradd Wyddeleg, yr ysgol cyfrwng Gwyddeleg gyntaf ar diriogaeth gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, ac, yn ôl rhai y Gaeltacht ddinesig gyntaf mewn can mlynedd. O'r hedyn yma agorwyd Cultúrlann McAdam Ó Fiaich yn 1991, ysgol uwchradd ac, ar una deg papur newydd dyddiol . Mae nawr yn sail ar gyfer yr hyn a elwir yn Cwarter Belffast.[1]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Pobal Bhóthar Seoighe: Story of the Shaws Road Gaeltacht told in BBC documentary". BelfastMedia. 13 Mai 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Gaeltacht