Mae Ùige yn bentref ar arfordir gorllewinol penrhyn Trotternish ar Ynys Skye, Yr Alban. [1] Roedd gan Ùige boblogaeth o 423 yn 2011.[2]

Mae’r enw yn dod o hen Lychlyn, wikt:vík|vík, sy’n golygu Bae[3]. Enwau tebyg yn cynnwys “Wick” a “Vik”.

Enwyd Uigg, ar Ynys Tywysog Edward, Canada ar ôl Ùige gan bobl a ddaeth i Ganada fel rhan o Glirio’r Ucheldiroedd.

Daearyddiaeth

golygu

Saif Ùige yn rhannol ar y traeth uchel ar ben y bae ac yn rhannol ar y llethrau serth o’i gwmpas. Mae Afon Rha ac Afon Conon yn cyrraedd y bae yno.

Trafnidiaeth

golygu

Mae’r A87 yn mynd o Ùige drwy Bort Rìgh a Kyle of Lochalsh. Mae hefyd yr A855 sy’n mynd yn ogleddol ac o gwmpas Trotternish cyn mynd i lawr i Bort Rìgh. Ers Awst 2006, mae bysiau Intercity wedi cyrraedd Ùige, ac my bysiau Scottish Citylink yn mynd mor bell a Fort William a Glasgow.

Fferiau

golygu
 
Fferi yn gadael Ùige

Mae fferiau Caledonian MacBrayne yn mynd o Ùige i An Tairbeart ar Na Hearadh ac i Loch nam Madadh ar Uibhist a Tuath. Mae’r ddau yn creu cysylltiad rhwng yr Ynysoedd Heledd Allanol, Skye a thir mawr Yr Alban.


Cyferiadau

golygu
  1. Gwefan Geiriadur Daearyddol yr Alban; Cyhoeddwyr Prifysgol Caeredin a Chymdeithas Frenhinol Daearyddol yr Alban
  2. Cyfrifiad Cyngor yr Ucheldir, 2011
  3. "Enwau llefydd P-Z, Llywodraeth yr Alban" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-05-26. Cyrchwyd 2022-11-01.