41
blwyddyn
1g CC - 1g - 2g
0au CC 0au 10au 20au 30au - 40au - 50au 60au 70au 80au 90au
36 37 38 39 40 - 41 - 42 43 44 45 46
Digwyddiadau
golygu- 24 Ionawr — Yr ymerawdwr Rhufeinig Caligula yn cael ei lofruddio gan aelodau o Gard y Praetoriwm. Mae'r milwyr yn darganfod ei ewythr Claudius yn ymguddio yn y palas, ac yn ei gyhoeddi yn ymerawdwr.
- 25 Ionawr — Senedd Rhufain yn derbyn Claudius fel ymerawdwr.
- Messalina, gwraig Claudius, yn ei berswadio i alltudio Seneca yr Ieuengaf ar gyhuddiad o odineb gyda Julia Livilla.
Genedigaethau
golygu- 12 Chwefror — Tiberius Claudius Caesar Britannicus, mab Claudius a Messalina
Marwolaethau
golygu- 24 Ionawr
- Caligula, ymerawdwr Rhufeinig, 28 (llofruddiwyd)
- Caesonia, gwraig Caligula,
- Julia Drusilla, merch Caligula, 2 (llofruddiwyd)
- Diwedd y flwyddyn — Julia Livilla, merch Germanicus, nith Claudius.