9Bach
Band Cymreig ydy 9Bach, a sefydlwyd yn 2005 ym Methesda gan Lisa Jên Brown a Martin Hoyland. Ynganir yr enw fel "Nain Bach".
9Bach | |
---|---|
![]() | |
Lisa'n perfformio yn y siop Rough Trade East, Llundain, 24 Awst 2009. | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Man geni | ![]() |
Blynyddoedd | 2005- |
Yn 2015 enillodd y band y wobr am albwm y flwyddyn yng ngwobrau gwerin BBC Radio 2.[1]
Yn 2017 enwebwyd y band yn y categori'r 'Grwp gorau' yn Folk Awards a drefnir gan BBC Radio 2.
DiscograffiaethGolygu
- 9bach (2009) Albwm ar label Gwymon drwy Cwmni Recordio Sain
- Tincian (2014) Albwm ar label Real World Records[2]
- Tinc (2014) EP ailgymysgiad 5 cân o'r albwm 'Tincian' ar label Real World Records[3]
- Anian (2016) Albwm ar label Real World Recordings