Aïn Draham
Mae Aïn Draham yn dref yng ngogledd-orllewin Tiwnisia, yn nhalaith Jendouba, a leolir 25 km i'r de o Tabarka ar y ffin ag Algeria i'r gorllewin. Ar un adeg bu'n ganolfan filwrol a thref farchnad leol, ac erbyn heddiw mae hi'n ganolfan economaidd i'r ardal leol ac yn cael ei galw yn "frynfa Tiwnisia" oherwydd ei uchder a'i hinsawdd gymhedrol.
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 35,400 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jendouba |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 800 metr |
Cyfesurynnau | 36.78°N 8.7°E |
Yn brif ganolfan yr ardal (délégation) leol o 40,372 o bobl, mae gan Aïn Draham boblogaeth o 10,843 (2004); am ei bod yn "brifddinas" yr ardal fechan mae hi'n cael ei chfrif yn ddinas yn Nhiwnisia. Mae hi'n gorwedd tua 800 m i fyny ar lethrau Djebel Bir (1014 m), sy'n un o gopaon uchaf mynyddoedd y Kroumirie. Yr ardal o gwmpas y dref yw'r gwlypaf yn y wlad sy'n dal record Tiwnisia am law mewn blwyddyn (1534 mm).
Ystyr yr enw Aïn Draham yw "Ffynnon Arian" (aïn 'ffynnon' + draham 'arian'); fe'i gelwir felly oherwydd y ffynhonnau poeth swlffwrig niferus yn y cylch, a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid. Gellir gweld olion baddondai Rhufeinig yma ac acw yn ymyl y dref.
Ers cyfnod mandad Ffrainc yn y wlad, mae Aïn Draham wedi bod yn fan ymddeol a hamddena. Mae gan nifer o'i dai traddodiadol doeau teils coch trawiadiol sy'n debyg i'r hyn a geir ym mryniau de Ewrop. Mae hi'n enwog yn Nhiwnisia am ei choedwigoedd eang o dderi corc a chyfoeth ei hanifeiliaid gwyllt, yn arbennig baedd gwyllt.