Kroumirie
Mae'r Kroumirie, neu'r Khroumirie, yn rhanbarth fynyddig yn y Maghreb. Fe'i enwir ar ôl y bobl Kroumiriaid lleol.
Math | rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | Khroumir |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 36.58°N 8.42°E |
Mae mynyddoedd y Korumirie yn ymestyn yn gadwynoedd o fryniau coediog canolig eu huchder yng ngogledd-orllewin Tiwnisia a rhan gyfagos o ogledd-ddwyrain Algeria. I'r gogledd ceir gwastadedd ar lan y Môr Canoldir, i'r dwyrain mae gwastadeddau ardal Bizerte, i'r de ceir dyffryn afon Medjerda ac i'r gorllewin ymdoddant i fryniau Algeria dros y ffin, a nodir gan copa Djebel Abiod, yn Tunisie, pwynt uchaf y Kroumirie.
Mae'n un o'r ardaloedd gwlypaf yng Ngogledd Affrica, sy'n derbyn rhwng 1000 a 1500 mm o law y flwyddyn.
Ceir dau safle archaeoloegol pwysig ar lethrau deheuol y Kroumirie, ger Jendouba, sef dinasoedd Rhufeinig Bulla Regia a Chemtou.
Ethnoleg
golyguMae'r Kroumiriaid yn gynghrair llac o grwpiau ethnig cyfagos. Mae'r Kroumiriaid go iawn yn byw yn nyffryn afon El Kebir ("Afon Fawr" yn Arabeg); fe'i gelwir yn Kroumiriaid "tabarquins" wedi eu hymrannu yn y grwpiau a ganlyn:
- Houamdia (is-grwpiau: Rjaïbia a'r Ghraïbia)
- Ouled Amor (is-grwpiau: Braïkia, Mellouli a Rouaissia) sy'n byw yn ardal Errmel hyd y ffin
- Ouled Cedra
- Ouled Said (is-grwp: Ouled Saad)
Mae Kroumiriaid yr ucheldiroedd (yn ardal Aïn Draham), yn perthyn i'r Sloul a'r Slelma (is-raniadau: Debabsa, Atatfa, Tebaïnia, Hamran, Gouaidia, a.y.b.). Dyma'r "cnewyllyn cadarn" ac mae'r llwythau eraill wedi fel petae eu clymu o'u cwmpas, yn arbennig fel canlyniad i'r goresgyniad o Diwnisia gan Ffrainc yng ngwanwyn 1881.
Gellid dosbarthu'r llwythau yn ôl ardal o fewn y Kroumirie yn ogystal:
- Kroumirie gorllewinol: Ouled Sidra, Mazoulah (Algeria) a Ouled Ali (Algeria)
- Kroumirie dwyreiniol: Meknas, Ouchtatas a Nefzas
- Kroumirie deheuol: Amdouns a Chiahia
Canolfannau
golyguMae'r Kroumirie yn ardal o bentrefi bychain yn hytrach na threfi mawr. Lleolir yr unig drefi sylweddol ar ei ymylon, yn arbennig Tabarka i'r gogledd (sydd â phoblogaeth ethnig sylweddol o Kroumiriaid) a Jendouba a Béja yn nyffryn afon Medjerda.
Yn y bryniau yr unig ganolfan o bwys yw Aïn Draham, sy'n ganolfan coedwigaeth a thwristiaeth. Mae'n cael ei disgrifio weithiau fel "brynfa Tiwnisia."