Jendouba (talaith)

Mae Jendouba (Arabeg: ولاية جندوبة) yn dalaith yn Nhiwnisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag Algeria gyda rhimyn o arfordir (25 km) ar lan Môr y Canoldir yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn afon Medjerda yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y Kroumirie. Jendouba yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).

Jendouba
MathTaleithiau Tiwnisia Edit this on Wikidata
PrifddinasJendouba Edit this on Wikidata
Poblogaeth401,477 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Mehefin 1956 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnisia Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd3,102 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.5°N 8.78°E Edit this on Wikidata
TN-32 Edit this on Wikidata
Map
Cefn gwlad Jendouba yn y gwanwyn

Bu'r dalaith yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica a dan reolaeth brenhinoedd Numidia o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig Bulla Regia, yn agos i ddinas Jendouba, a Chemtou a Thubernica yn y gogledd.

Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â Thiwnis i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw Ghardimao, y dref olaf cyn Algeria, a Bou Salem. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel Aïn Draham a thref glan môr Tabarka. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.

Dinasoedd a threfi golygu

Taleithiau Tiwnisia  
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan