Aïno Ackté
soprano o'r Ffindir
Soprano operatig o'r Ffindir oedd Aïno Ackté (24 Ebrill 1876 –8 Awst 1944). Astudiodd dan arweiniad ei mam, y soprano operatig Emmy Achté (1850–1924) tan 1894, pan aeth i Ffrainc a'r Conservatoire de Paris. Marguerite yn Faust Gounod yn Opera Paris ym 1897 oedd ei rôl gyntaf ar y llwyfan. O 1904 i 1906 ymddangosodd ar lwyfan Opera Metropolitan, Efrog Newydd. Canodd y rhan deitl yn Salome Richard Strauss yn Leipzig (1907) a Llundain (1910), a chafodd clod mawr. Dychwelodd i'r Ffindir ym 1911 a pherfformio a threfnu opera yno am y rhan fwyaf o weddill ei hoes.[1]
Aïno Ackté | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Ebrill 1876 ![]() Helsinki ![]() |
Bu farw | 8 Awst 1944 ![]() Nummela ![]() |
Label recordio | Fonotipia ![]() |
Dinasyddiaeth | y Ffindir ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, canwr opera, libretydd ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Math o lais | soprano ![]() |
Tad | Lorenz Nikolai Achté ![]() |
Mam | Emmy Achté ![]() |
Priod | Heikki Renvall, Bruno Jalander ![]() |
Plant | Glory Leppänen, Mies Reenkola ![]() |
Gwobr/au | Finnish Music Hall of Fame ![]() |
Priododd â Heikki Renvall ym 1901. Bu iddynt ddau o blant, Glory (g. 1901)[2] a Mies Reenkola (g. 1908).[3]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Suhonen, Pekka (29 Gorffennaf 2016). "Ackté, Aino (1876 - 1944)". Kansallisbiografia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Awst 2017. Cyrchwyd 25 Mehefin 2020. (Ffinneg)
- ↑ Ekberg, Henrik; Rehnström, Vivi-Ann (1983). Uppslagsverket Finland (yn Swedeg). Schildts. t. 232. ISBN 978-951-50-0296-9. Cyrchwyd 10 Hydref 2010.
- ↑ Ekberg, Henrik; Rehnström, Vivi-Ann (1983). Uppslagsverket Finland 2 K-R (yn Swedeg). Schildts. t. 618. ISBN 978-951-50-0296-9. Cyrchwyd 10 Hydref 2010.