Helsinki
Helsinki (yn Ffinneg; ynganiad ), neu Helsingfors (yn Swedeg y Ffindir;
ynganiad ) yw prifddinas Y Ffindir a'i dinas fwyaf. Mae'n borthladd pwysig ar lan ogleddol Gwlff y Ffindir, yn y Môr Baltig. Helsinki yw canolfan weinyddol a masnachol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 564,908 (31 Ionawr, 2007). Mae ardal drefol Helsinki yn cynnwys dinasoedd Espoo, Vantaa a Kauniainen, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Rhanbarth y Brifddinas, gyda phologaeth o tua 998,535. Yn ogystal mae Helsinki Fwyaf yn cynnwys rhai dinasoedd ychwanegol ac mae ganddi boblogaeth o 1,293,093 (2007), sy'n golygu fod un o bob pedwar Ffinn yn byw yn ardal Helsinki Fwyaf.
![]() | |
![]() | |
Math |
prifddinas, dinas, metropolis, municipality of Finland, y dinas fwyaf ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
642,045 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Jan Vapaavuori ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+2, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Ffinneg, Swedeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Uusimaa ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
213.75 km² ![]() |
Uwch y môr |
17 metr ![]() |
Gerllaw |
Gwlff y Ffindir, Afon Vantaa ![]() |
Yn ffinio gyda |
Espoo, Vantaa, Sipoo ![]() |
Cyfesurynnau |
60.17556°N 24.93417°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Dinas Helsinki ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Jan Vapaavuori ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Gustav I of Sweden ![]() |
Mae ganddi nifer o adeiladau mewn gwenithfaen hardd, gan gynnwys y senedd-dŷ a'r eglwys gadeiriol (18g). Ceir nifer o adeiladau diweddar yn ogystal a ystyrir yn enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth yr 20g. Ceir nifer o lynnoedd yn y dinas ac o'i chwmpas. Sefydlwyd ei phrifysgol yn 1828.
Sefydlwyd Helsinki gan y brenin Swedaidd Gustavus I Vasa yn 1550 pan oedd y wlad ym meddiant Sweden. Roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o bren. Dioddefodd y ddinas dân mawr yn 1808 a ddinistriodd rannau mawr ohoni a chafodd ei hail-adeiladau mewn canlyniad. Dan reolaeth Rwsia ar y Ffindir symudwyd y brifddinas o ddinas Turku i Helsinki yn 1812. Yn yr Ail Ryfel Byd dioddefodd bomio ar raddau sylweddol. Erbyn heddiw mae'n ddinas werdd, lewyrchus.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Eglwys gadeiriol
- Palas Gwydr
- Senedd
Pobl o HelsinkiGolygu
- Tove Jansson (1914-2001), arlunydd, ysgrifennwr, darlunydd, awdur plant, cartwnydd
- Alvar Aalto (1898-1976), pensaer, dylunydd, cynllunydd trefol
- Paavo Berglund (g. 1929), cerddor
- Esa-Pekka Salonen (g. 1958), cyfansoddwr
DinasweddGolygu
Dolen allanolGolygu
- (Ffinneg, Swedeg, Saesneg, ayyb) Gwefan swyddogol y ddinas