Band roc caled Awstralaidd a ffurfiwyd yn Sydney ym 1973 gan y brodyr Angus a Malcolm Young yw AC/DC. Er ystyrient fel arloeswyr metel trwm,[1][2] mae aelodau'r band wastad wedi disgrifio eu cerddoriaeth fel "roc a rôl".[3]

AC/DC
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladAwstralia Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records, Sony Music Entertainment, Interscope Records, Universal Music Group, Epic Records, Geffen Records, Hollywood Records, Island Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1973 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Rhagfyr 1973 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc caled, roc a rôl, roc y felan, classic rock Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAngus Young, Cliff Williams, Brian Johnson, Stevie Young, Matt Laug, Chris Chaney Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifAustralian Performing Arts Collection Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://acdc.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bu nifer o newidiadau i drefniant AC/DC cyn iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf, High Voltage, ym 1975. Ni newidiodd yr aelodaeth tan i'r gitarydd bas Cliff Williams cymryd lle Mark Evans ym 1977. Ym 1979, recordiodd y band eu halbwm llwyddiannus iawn Highway to Hell. Bu farw'r prif ganwr a chyd-ysgrifennwr caneuon Bon Scott ar 19 Chwefror 1980, ar ôl noson o yfed trwm. Ystyriodd y band roi'r gorau iddi, ond yn fuan wedyn, cafodd Brian Johnson, cyn-ganwr Geordie ei ddewis i gymryd lle Scott. Yn hwyrach y flwyddyn honno, rhyddhaodd y band eu halbwm brig, Back in Black.

Roedd albwm nesaf y band, For Those About to Rock We Salute You, hefyd yn llwyddiannus iawn ac hwn oedd eu halbwm cyntaf i gyrraedd safle rhif-un yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd poblogrwydd AC/DC ar ôl i'r drymiwr Phil Rudd adael ym 1983. Parhaodd gwerthiannau recordiau isel nes i The Razors Edge gael ei ryddhau ym 1990. Dychwelodd Phil Rudd ym 1994 a chyfrannodd at yr albwm Ballbreaker, a ryddhawyd ym 1995. Rhyddhawyd Stiff Upper Lip yn 2000 a derbyniodd glod gan y beirniaid. Cyhoeddwyd albwm newydd y band, Black Ice, ym Mehefin 2008 a rhyddhawyd ar 20 Hydref 2008.

Mae AC/DC wedi gwerthu dros 200 miliwn o albymau yn fyd-eang,[4] gan gynnwys 71 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau.[5] Amcangyfrifir i Back in Black werthu rhyw 42 miliwn o gopïau byd-eang[6] a 22 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig.[7] Fe gynhwysir AC/DC yn bedwerydd ar restr VH1 o'r 100 Artist Roc Caled Gorau[8] ac yn seithfed ar restr MTV o'r Bandiau Metel Caled Gorau Erioed.[9]

Aelodau

golygu

Cyn-aelodau

golygu

Disgyddiaeth

golygu

Albymau stiwdio

golygu
Teitl Rhyddhawyd
High Voltage (Awstralia) 1975
T.N.T. 1975
High Voltage (rhyngwladol) 1976
Dirty Deeds Done Dirt Cheap (Awstralia) 1976
Dirty Deeds Done Dirt Cheap (rhyngwladol) 1976
Let There Be Rock (Awstralia) 1977
Let There Be Rock (rhyngwladol) 1977
Powerage 1978
Highway to Hell 1979
Back in Black 1980
For Those About to Rock We Salute You 1981
Flick of the Switch 1983
'74 Jailbreak 1984
Fly on the Wall 1985
Who Made Who 1986
Blow Up Your Video 1988
The Razors Edge 1990
Ballbreaker 1995
Stiff Upper Lip 2000
Black Ice 2008
Rock or Bust 2014
Power Up 2020

Llyfryddiaeth

golygu

Dome, Malcolm (1982). AC/DC. Proteus Books. ISBN 0-862-76011-9

Bunton, Richard (1983). AC/DC: Hell Ain't No Bad Place to Be. Omnibus Books. ISBN 0-711-90082-5

Holmes, Tim (1986). AC/DC (Monsters of Metal). Ballantine. ISBN 0-345-33239-3

Huxley, Martin (1996). AC/DC: The World's Heaviest Rock. Lightning Source Inc.. ISBN 0-312-30220-7

Stenning, Paul (2005). AC/DC: Two Sides to Every Glory. Chrome Dreams. ISBN 1-842-40308-7

Cyfeiriadau

golygu
  1. "AC/DC". Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite (2008). (24 Medi, 2007). Gol. Dale Hoiberg. ISBN 1-59339-292-3.
  2. "heavy metal". Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite (2008). (24 Medi, 2007). Gol. Dale Hoiberg. ISBN 1-59339-292-3.
  3. Engleheart, Murray (18 Tachwedd 1997). AC/DC - Bonfire
  4. (Saesneg) Mulvey, Paul (23 Hydref 2003). Back to roots for AC/DC. Sydney Morning Herald. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  5. (Saesneg) Top Selling Artists. Recording Industry Association of America. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  6. (Saesneg) Record Breakers and Trivia: Albums. EveryHit. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  7. (Saesneg) Top 100 Albums. Recording Industry Association of America. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  8. (Saesneg) 100 Greatest Artists of Hard Rock. VH1.com. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  9. (Saesneg) The Greatest Metal Bands Of All Time. MTV. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.

Dolenni allanol

golygu