Agor y brif ddewislen

Dinas hynaf a fwyaf poblog Awstralia yw Sydney, prifddinas talaith De Cymru Newydd. Mae'n gorwedd ar fae Port Jackson ar lan y Cefnfor Tawel. Mae'n ganolfan fasnachol, ddiwydiannol a diwylliannol a dyfodd o gwmpas ei phorthladd. Cysylltir ddwy ran y ddinas gan Bont Harbwr Sydney dros fae Port Jackson, pont rychwant unigol a godwyd yn 1932. Mae'r ddinas yn enwog am ei thŷ opera, a agorwyd yn 1973.

Sydney
Sydney skyline at dusk - Dec 2008.jpg
Sydney - COA.svg
Math Dinas, Prifddinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Thomas Townshend, 1st Viscount Sydney Edit this on Wikidata
Poblogaeth 4,840,600 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1788 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+10:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir De Cymru Newydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Awstralia Awstralia
Arwynebedd 12,144.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 6 metr, 58 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Parramatta Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 33.87°S 151.2°E Edit this on Wikidata
Cod post 2000 Edit this on Wikidata

Cynnwys

HanesGolygu

Roedd pobl brodorol yn byw yno tua 50,000 o flynyddoedd cyn cyrhaeddiad pobl o Ewrop.

Cyrhaeddodd capten James Cook ym 1770 a hawliodd yr arfordir dwyreiniol i Brydein. Ar 26 Ionawr 1788, daeth Capten Arthur Philip i Borth Jackson er mwyn sefydlu carchar ar gyfer troseddwyr Prydeinig.

Tyfodd dref o'r sefydliad gwreiddiol, efo'r swyddfeydd pwysicaf ar ei hochr ddwyreiniol. Datblygodd y dref yn sylweddol o dan reolaeth Lachlan McQuarrie, llywodaethwr y dref rhwng 1810 a 1821. Daeth cludiant y carcharorion i ben ym 1840. Daeth hela morfilod a'r diwydiant gwlan yn bwysig.

Sefydlwyd Dinas Sydney ym 1842. Darganfywyd aur yn Awstralia ym 1851, a daeth llawer o bobl i'r ardal o Ewrop, gogledd America a Tsieina. Erbyn diwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd Sydney boblogaeth o dros hanner miliwn.[1]

 
Pont Harbwr Sydney
 
Fferri'n mynd heibio'r Tŷ Opera

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu