A Bigger Splash
Peintiad yn yr arddull bop gan yr arlunydd Seisnig David Hockney yw A Bigger Splash a gyflawnwyd yn 1967. Darluniad ydyw o ddŵr yn tasgu mewn pwll nofio, ger tŷ modernaidd yn nhywydd braf Califfornia. Pen sbringfwrdd sydd yn nhu blaen y llun, ac felly'r awgrym ydy bod un yn plymio i'r dŵr sydd wedi achosi'r sblash. Paent acrylig ar gynfas lliain ydy cyfrwng y gwaith, a chyda ffrâm sy'n mesur 2425 x 2439 x 30 mm.[1]
Enghraifft o'r canlynol | paentiad |
---|---|
Crëwr | David Hockney |
Deunydd | paent acrylig, cynfas |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Genre | celf bop |
Lleoliad | Orielau Tate, Tate Britain |
Perchennog | Orielau Tate |
Peintiodd Hockney sawl olygfa debyg yn y cyfnod 1964–71, ac yn y gweithiau hyn ymdrechai'r arlunydd ddarlunio symudiadau'r dŵr a dal eiliad o gynnwrf yn llonydd ar y cynfas, megis ffotograff. Mae cynnwys y peintiad hwn yn nodweddiadol o waith enwocaf Hockney: dŵr, awyr glas, pensaernïaeth a dylunio modern, a phalmwydd. Cafodd Hockney hefyd ei ysbrydoli gan ddarluniau Leonardo da Vinci o donnau a throbyllau. A Bigger Splash yw'r olaf o'i dri pheintiad "sblash"; cwblhaodd The Splash a A Little Splash yn 1966.[2]
Trefnir y mwyafrif o elfennau'r llun – y tŷ a'i ddrysau gwydr, boncyffion y palmwydd, ymyl y pwll nofio, a'r sbringfwrdd – ar ffurf llinellau gwastad a chymesur, sydd yn galluogi'r arsyllydd i ganolbwyntio ar y dŵr. Hockney oedd un o'r arlunwyr cyntaf i ddefnyddio acryligau i beintio lluniau cyfan, gan iddo gredu bod paent acrylig yn gyfrwng gwell er portreadu hinsawdd a thirwedd Califfornia na phaent olew. Defnyddiodd rholer i gwblhau'r mwyafrif o'r llun yn gyflym, a threuliodd mwy na thair wythnos yn peintio'r sblash yn fanwl gyda sawl brws gwahanol.[3]
Prynwyd y peintiad gan y noddwr celf bonheddig Sheridan Dufferin yn 1968, a'i roddi i Orielau Tate yn 1981.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "'A Bigger Splash', David Hockney, 1967", Tate. Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Josephine van de Walle, "Modern Classics: David Hockney – A Bigger Splash, 1967", artlead (19 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Matthew Sperling, "The pull of Hockney’s pool paintings", Apollo (4 Chwefror 2017). Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.