Tate Britain

oriel gelf yn Llundain

Oriel gelf yn Ninas Westminster, Llundain Fwyaf, yw Tate Britain, a elwid ynghynt yn Oriel y Tate. Mae'n gartref i'r casgliad cenedlaethol o gelf Prydeinig. Cangen o'r Oriel Genedlaethol oedd y Tate yn wreiddiol, yn arddangos gweithiau Prydeinig nad oedd yn bosibl eu harddangos yn Sgwâr Trafalgar oherwydd diffyg lle yno. Fe'i agorwyd ym 1897 mewn adeilad gan Sidney R. J. Smith, ar safle hen garchar Millbank. Mae'r oriel yn dwyn ei enw o Syr Henry Tate, masnachwr siwgr, a roddodd ei gasgliad i'r oriel. Enw swyddogol yr oriel yn wreiddiol oedd National Gallery (British Art). Ymhen dipyn fe ddaeth celf modern yn rhan bwysig o gasgliad y Tate, ond fe symudwyd y gweithiau yma i safle newydd, Tate Modern, yn 2000. Agorwyd estyniad gan y pensaer James Stirling ar gyfer gweithiau gan J. M. W. Turner ym 1987.

Tate Britain
Mathoriel gelf, amgueddfa genedlaethol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Agoriad swyddogol1897 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOrielau Tate Edit this on Wikidata
LleoliadMillbank Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.491062°N 0.127789°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3007178570 Edit this on Wikidata
Cod postSW1P 4RG Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganHenry Tate Edit this on Wikidata
Manylion