A Desperate Poaching Affray
Ffilm 1903 yw A Desperate Poaching Affray, a elwir yn yr Unol Daleithiau fel The Poachers. Dosbarthwyd y ffilm hon gan Gaumont. Cafodd ei ffilmio mewn du a gwyn. Gan fod y ffilm wedi ei chyhoeddi dros 95 mlynedd yn ôl, mae yn y parth cyhoeddus.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dyddiad cyhoeddi | 1903 |
Genre | ffilm drosedd, ffilm fud |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Hyd | 3 munud |
Cyfarwyddwr | William Haggar |
Dosbarthydd | Gaumont |
Gwnaed y ffilm gan y cynhyrchydd ffilm o Gymru, William Haggar . Dri munud o hyd, mae'r ffilm yn cael ei chydnabod fel dylanwad cynnar ar ddrama naratif mewn ffilm Americanaidd. Defnyddiodd y ffilm llawer o dechnegau arloesol. Ystyrir bod y ffilm wedi helpu i lawnsio'r subgenre "chase" a dylanwadu ar The Great Train Robbery gan Edwin S. Porter.[1]
Yn y ffilm gwelir tystiolaeth glir o ddealltwriaeth Haggar o’r angen i sicrhau dyfnder i’r digwyddiadau ar y sgrin. Llwyddodd i ychwanegu cyffro er bod y camera'n statig, drwy gyfarwyddo’r actorion i fynd i mewn ac allan o’r ffrâm yn agos at y camera ac o onglau amrywiol. Mae golygfa panio gyntaf Haggar yn dangos y ddau botsiwr yn rhedeg o afael y ciper a'r heddlu ac yn neidio dros giât. Mae dau o'i feibion, Walter a William ifanc, yn chwarae rolau pwysig yn y ffilm.[2]
Derbyniad
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Top Welsh directors: William Haggar". BBC Wales. 5 Mawrth 2010. Cyrchwyd 21 Chwefror 2011.
- ↑ Charles Musser (1994). The Emergence of Cinema: The American Screen to 1907 (yn Saesneg). University of California Press. t. 365.