A Portuguesa
Anthem genedlaethol Portiwgal yw "A Portuguesa" ("Cân Portiwgal"). Cyfansoddwyd yr alaw gan Alfredo Keil a'r geiriau gan Henrique Lopes de Mendonça yn ystod ymchwydd mewn cenedlaetholdeb Portiwgalaidd yn 1890, a achoswyd pan fygythodd Lloegr ei threfedigaethau Affricanaidd. Mabwysiadwyd yr anthem yn Porto, fel ymdeithgan (yn debyg i Wŷr Harlech yng Nghymru) fel curiad martsio traed ei milwyr, a hynny yn 1911, pan anwyd Portiwgal yn Wladwriaeth newydd. Cyn hynny, "O Hino da Carta" oedd yr anthem swyddogol.
Teitl Cymraeg:"Y Portiwgaliaid" | |
---|---|
Fersiwn 1957 | |
Anthem genedlaethol Portiwgal | |
Geiriau | Henrique Lopes de Mendonça, 1890 |
Cerddoriaeth | Alfredo Keil, 1890 |
Mabwysiadwyd | 5 Hydref 1910 (de facto) 19 Gorffennaf 1911 (de jure) |
Sampl o'r gerddoriaeth | |
Protocol
golyguCenir yr anthem hon o fewn Portiwgal ar achlysuron milwrol a dinesig, pan fo pennaeth y wlad yn cael ei adnabod neu ei anrhydeddu. Cenir hi hefyd mewn cyngherddau neu gyfarfodydd pan fo llywydd y wlad yn ymweld â gwledydd eraill.[1]
Geiriau
golyguGeiriau Portiwgaleg | Cyfieithiad Cymraeg |
---|---|
Heróis do mar, nobre povo, |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Antecedentes históricos do Hino Nacional" (yn Portiwgaleg). Governo da República Portuguesa. Cyrchwyd 2009-07-31.