A Streetcar Named Desire (ffilm 1951)
Mae A Streetcar Named Desire (1951) yn addasiad o ddrama o'r un enw gan Tennessee Williams. Cyfarywddwyd y ffilm gan Elia Kazan, a gyfarwyddodd y cynhyrchiad llwyfan hefyd. Mae'r ffilm yn serennu Marlon Brando, Vivien Leigh, Kim Hunter a Karl Malden; cawsant eu dewis am eu bod i gyd yn rhan o'r cast ar Broadway tra bod Leigh wedi serennu yn y cynhyrchiad yn West End Llundain. Cynhyrchwyd y ffilm gan yr asiant talentau a'r cyfreithiwr Charles K. Feldman, a rhyddhawyd y ffilm gan Warner Bros.. Ysgrifennwyd y sgript gan Williams ei hun, ond gwnaed nifer o newidiadau iddo i waredu'r cyfeiriadau at gyfunrywioldeb ymysg pethau eraill.
![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Elia Kazan |
Cynhyrchydd | Charles K. Feldman |
Ysgrifennwr | Tennessee Williams |
Serennu | Vivien Leigh Marlon Brando Kim Hunter Karl Malden |
Cerddoriaeth | Alex North |
Sinematograffeg | Harry Stradling Sr. |
Golygydd | David Weisbart |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros. |
Amser rhedeg | Mewn theatrau: 122 munud Golygiad y cyfarwyddwr: 125 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |