A Streetcar Named Desire (drama)
Mae A Streetcar Named Desire yn ddrama o 1947 a ysgrifennwyd gan y dramodydd Americanaidd Tennessee Williams. Enillodd Wobr Pulitzer am y ddrama ym 1947. Agorodd y ddrama ar Broadway ar y 3ydd o Ragfyr, 1947 a daeth i ben ar yr 17eg o Ragfyr, 1949 yn Theatr Ethel Barrymore. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad Broadway gan Elia Kazan a serennodd Marlon Brando, Jessica Tandy, Kim Hunter, a Karl Malden.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Label brodorol | A Streetcar Named Desire |
Awdur | Tennessee Williams |
Iaith | Saesneg America |
Dyddiad cyhoeddi | 1947 |
Dechrau/Sefydlu | 1947 |
Genre | theatr |
Cymeriadau | Blanche DuBois, Stella Kowalski, Stanley Kowalski |
Lleoliad y perff. 1af | Ethel Barrymore Theatre |
Dyddiad y perff. 1af | 3 Rhagfyr 1947 |
Enw brodorol | A Streetcar Named Desire |
Lleoliad y gwaith | French Quarter, Downtown New Orleans |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym 1951, enillodd addasiad ffilm o'r ddrama (a gyfarwyddwyd gan Elia Kazan), nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr yr Academi i Vivien Leigh fel yr Actores Orau yn rôl Blanche. Jessica Tandy oedd yr unig brif actor o'r cynhyrchiad Broadway gwreiddiol i beidio ag ymddangos yn y cynhyrchiad Broadway a'r ffilm ym 1951. Ym 1995, gwnaed y ddrama yn opera gyda cherddoriaeth gan André Previn a chafodd ei gyflwyno gan Opera San Francisco.