A View to a Kill

ffilm acsiwn, llawn cyffro a ffilm am ysbïwyr gan John Glen a gyhoeddwyd yn 1985

Y pedwerydd ffilm ar ddeg yng nghyfres James Bond yw A View to a Kill (1985), a'r seithfed ffilm i serennu Roger Moore fel yr asiant cudd MI6, James Bond. Er fod teitl y ffilm yn addasiad i stori fer Ian Fleming "From a View to a Kill", mae gan y ffilm sgript cwbl wreiddiol, fel y ffilmiau The Spy Who Loved Me ac Octopussy. Yn y ffilm A View to a Kill, brwydra Bond yn erbyn Max Zorin sy'n bwriadu dinistrio Dyffryn Silicon California.

A View to a Kill

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr John Glen
Cynhyrchydd Albert R. Broccoli
Michael G. Wilson
Ysgrifennwr Ian Fleming
Addaswr Richard Maibaum
Michael Wilson
Serennu Roger Moore
Christopher Walken
Tanya Roberts
Grace Jones
Cerddoriaeth John Barry
Prif thema A View to a Kill
Cyfansoddwr y thema John Barry
Duran Duran
Perfformiwr y thema Duran Duran
Sinematograffeg Alam Hume
Golygydd Peter Davies
Dylunio
Dosbarthydd MGM/UA Entertainment Co.
Dyddiad rhyddhau 13 Mehefin 1985
Amser rhedeg 126 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Cyllideb $30,000,000 (UDA)
Refeniw gros $152,400,000
Rhagflaenydd Octopussy (1983)
Olynydd The Living Daylights (1987)
(Saesneg) Proffil IMDb


Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.