Roger Moore

actor a aned yn Stockwell yn 1927

Actor o Loegr oedd Syr Roger George Moore KBE (14 Hydref 192723 Mai 2017). Roedd yn adnabyddus am chwarae rhannau dau arwr anturiaethus Prydeinig, Simon Templar yn y gyfres deledu The Saint o 1962 tan 1969, a James Bond mewn saith ffilm wahanol rhwng 1973 a 1985. Ers 1991, bu Moore yn lys-gennad i UNICEF. Ef gafodd y fraint o fod y gwestai olaf i ymddangos ar The Muppet Show pan ddarlledwyd y rhaglen am y tro olaf ym 1981.

Roger Moore
Moore yn 1973
GanwydRoger George Moore Edit this on Wikidata
14 Hydref 1927 Edit this on Wikidata
Stockwell Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 2017 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Crans-Montana Edit this on Wikidata
Man preswylMonaco Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor llais, hunangofiannydd, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, person milwrol, actor Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodDorothy Squires, Kristina Tholstrup, Luisa Mattioli, Doorn Van Steyn Edit this on Wikidata
PlantDeborah Moore, Geoffrey Moore Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, KBE, CBE, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://roger-moore.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Bu farw ym Mai 2017 wedi dioddef o gancr am gyfnod byr.[1][2]

Priododd y cantores Cymreig Dorothy Squires, fel ei ail wraig, ym 1953, ond parhaodd y briodas tan 1961; ysgarodd ym 1969. Gwraig gyntaf Moore oedd Doorn Van Steyn (priododd 1946; ysgarodd 1953). Priododd Luisa Mattioli ym 1969; ysgarodd 1996. Priododd Kristina "Kiki" Tholstrup yn 2002.

Teledu

golygu
  • Ivanhoe (1958–1959)
  • The Alaskans (1959–1960)
  • Maverick (1960–1961)
  • The Saint (1962–1969)
  • The Persuaders! (1971–1972)

Ffilmiau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. @sirrogermoore (23 Mai 2017). "Datganiad ar ffrwd swyddogol Syr Roger Moore" (Trydariad) – drwy Twitter.
  2. Syr Roger Moore wedi marw yn 89 oed, Golwg360 (23 Mai 2017). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
   Eginyn erthygl sydd uchod am actor Seisnig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.