Abaty Grace Dieu
Abaty Sistersaidd oedd Abaty Grace Dieu, a sefydlwyd ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn 1226. Roedd yn dŷ cangen o Abaty Dore, oedd ei hun yn dŷ cangen o Abaty Morimund yn Ffrainc. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o Drefynwy.
Math | abaty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.814246°N 2.797477°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM158 |
Fel sefydliad estron, nid oedd yn boblogaidd gyda'r Cymry. Dinistriwyd yr abaty yn un o ymgyrchoedd Llywelyn Fawr yn 1233. Ail-sefydlwyd yr abaty ar safle newydd, ar lan Afon Trothi, 6 km i'r gorllewin o Drefynwy, erbyn 1236. Talodd Llywelyn iawndal iddynt yr un flwyddyn.
Abaty tlawd fu Grace Dieu erioed; amcangyfrifwyd ei werth fel £18 yn asesiad 1291 (o'i gymharu a £145 ar gyfer Abaty Tyndyrn gerllaw), ac yn 1335, esgymunwyd yr abad am fethu talu ei ddegwm. Adeg chwalu'r mynachlogydd, dim ond dau fynach oedd yno, a dim ond £19 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty. Nid oes dim o'i gweddillion yn weladwy.
Llyfryddiaeth
golygu- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120