Abaty Sistersaidd oedd Abaty Nedd neu Abaty Glyn Nedd, a sefydlwyd yn ystod ymosodiad y Normaniaid ar dde-ddwyrain Cymru. Yn 1129 rhoddodd Richard de Granville diroedd eang rhwng Afon Nedd ac Afon Tawe i Abaty Savigny yn Ffrainc. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd abaty gerllaw'r castell Normanaidd yng Nghastell Nedd. Ar y dechrau, nid oedd yn dŷ Sistersaidd, ond unodd urdd Savigny ag Urdd y Sistersiaid yn 1147.

Abaty Nedd
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1129 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstâd Neath Abbey Edit this on Wikidata
SirDyffryn Clydach Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6609°N 3.8265°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata

Amcangyfrifwyd gwerth yr abaty fel £236 yn asesiad 1291, y cyfoethocaf o dai Sistersaidd Cymru. Ail-adeiladwyd yr abaty tua'r un flwyddyn. Bu diwyrwiad yn ystod y 14eg a'r 15g, ond yn gynnar yn y 16g bu adferiad dan yr abad Leyshon Thomas. Diddymwyd yr abaty yn 1539; yr adeg honno roedd saith mynach a Leyshon Thomas ei hun. £132 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty.

Adfeilion Abaty Nedd
Safle Abaty Nedd

Mae'r gweddillion yng ngofal Cadw, ac er ei bod wedi adfeilio, mae'n un o'r esiamplau gorau o dŷ Sistersaidd sydd i'w weld yng Nghymru heddiw.

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu