Castell-nedd

tref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, de Cymru
(Ailgyfeiriad oddi wrth Castell Nedd)

Tref ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, de Cymru, yw Castell-nedd. Mae'n gorwedd ar lan chwith yr afon Nedd. Roedd ganddi boblogaeth o 19,258 yn 2011.[1]

Castell-nedd
A rooftop view of Neath - geograph.org.uk - 1618067.jpg
Math tref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 50,658 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Castell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.66°N 3.81°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000618 Edit this on Wikidata
Cod OS SS745975 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jeremy Miles (Llafur)
AS/au Christina Rees (Llafur)
Gweler hefyd Castell-nedd (gwahaniaethu).

HanesGolygu

Man croesi'r afon oedd Castell-nedd i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig Tacitus yn cyfeirio atynt yn ei Historiae (Hanes), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.

Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau Celtaidd ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn Ogof Paviland[2] ar Benrhyn Gŵyr, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel "Arglwyddes Goch Paviland", gweddillion dyn nid menyw ydy.[3] Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid. Nidum yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.[4]

Mae adfeilion castell bychan Normanaidd, sef y Castell Nedd gwreiddiol, ger canol y dref.

Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18g, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethdŷ i betrol yn yr 20ed ganrif.

Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar.

 
Heol Windsor yng Nghastell-nedd

Y dref heddiwGolygu

Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys Abaty Nedd, Parc Y Gnoll, a'r farchnad.

Rhannau amlwg o'r dref yw Tonna i'r gogledd, Cimla i'r dwyrain, Bryncoch a Sgiwen i'r gorllewin a Llansawel i'r de.

EnwogionGolygu

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Castell-nedd (pob oed) (19,258)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castell-nedd) (1,666)
  
9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castell-nedd) (16895)
  
87.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Castell-nedd) (3,718)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1.  Cyfrifiad y DU 2001.
  2. Explore Gower:Paviland Cave - Goat's Hole
  3.  Paviland Cave.
  4.  History Department.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Eisteddfod GenedlaetholGolygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghastell-nedd ym 1918, 1934 a 1994. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi Castell-NeddGolygu

Gwlad Dinas
  Sbaen Albacete
  Yr Almaen Esslingen
  Gwlad Pwyl Piotrkow Trybunalski
  Yr Iseldiroedd Schiedam
  Yr Eidal Udine
  Slofenia Velenje
  Ffrainc Vienne

Gweler hefydGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

CyfeiriadauGolygu