Abbas Kiarostami

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Tehran yn 1940

Roedd Abbas Kiarostami (ganwyd 22 Mehefin 19404 Gorffennaf 2016) yn gyfarwyddwr ffilm Iranaidd ac yn un o wnaethirwyr ffilm ryngwladol fwyaf adnabyddus ac uchel ei barch tu allan i system Hollywood.[1] Fe'i ganwyd yn Tehran.

Abbas Kiarostami
Ganwyd22 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Tehran Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 2016 Edit this on Wikidata
o canser y stumog Edit this on Wikidata
14ydd arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIran Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Tehran Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, ffotograffydd, cynhyrchydd ffilm, bardd, golygydd ffilm, actor, arlunydd, cerflunydd, sinematograffydd, dylunydd graffig, darlunydd, ffotonewyddiadurwr, golygydd cyfrannog, cynhyrchydd, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
PlantBahman Kiarostami Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Gwobr Konrad Wolf, Praemium Imperiale, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, honorary doctor of Ca' Foscari University of Venice, Légion d'honneur, Palme d'Or Edit this on Wikidata
llofnod

Gan ddefnyddio arddull minimalaidd a barddonol mae ei ffilmiau yn archwilio cymhlethdodau bywyd pob dydd pobl gyffredin. Yn bwysleisio'r testun dros dechneg mae ei ffilmiau yn aml yn defnyddio actorion dibrofiad mewn sefyllfaoedd byrfyfyr naturiol.

Ym 1970 wnaeth ei ffilm gyntaf fel gyfarwyddwr ac ysgrifennwr sgript Nan va Koutcheh/The Bread and Alley. Daeth i sylw rhyngwladol ym 1987 gyda Where is the Friend's Home?, hanes plentyn o safbwynt plentyn. Daeth hon i fod y gyntaf o gyfres o dri ffilm.

Trawyd yr ardal o ogledd Iran ble ffilmiwyd Friend's House gan ddaeargryn. Ar glywed y am y ddaeargryn aeth Kiarostami i'r ardal yn syth i weld os oedd actorion a phobl roedd wedi cyfarfod wth gwneud 'Friend's House yn ddal i fyw. Yn seiliedig ar y profiad yma wnaeth And Life Goes On ym 1992.

Gwaethwyd trydydd ffilm yn y gyfres Through the Olive Trees (1994) gan ddatblygu stori serch a gyfeiriwyd ato yn And Life Goes On.

Enillodd Through the Olive Trees glôd mawr a dangoswyd yng Ngŵyl Ffilm Cannes.

Cydweithiodd Kiarostami gyda Jafar Panahi ar The White Balloon (1995) hanes merch ifanc yn ceisio prynu pysgodyn aur. Dwy flynedd yn ddiweddarach gwnaeth Taste of Cherry a ffilmiwyd tu mewn i gar gan ddilyn hanes y gyrrwr yn chwilio am gymorth rhywun i'w helpu cyflawni hunanladdiad. Enillodd Taste of the Cherry y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Ym 1999 wnaeth The Wind Will Carry Us a eto enillodd clôd rhyngwladol.

Yn 2002 fe'i enwebwyd yng Ngŵyl Ffilm Cannes am Ten yn dilyn deg o ferched Iranaidd a'u statws mewn cymdeithas draddodiadol y wlad.

Yn dilyn cyfyngiadau gan lywodraeth Iran ar ryddid i wneud ffilmiau a charchariad y cyfarwyddwyr Jafar Panahi gweithiodd Kiarostami ar brosiectau yn Japan a Ffrainc a'r Eidal.[2][3] Bu farw ym Paris yn 2016.

Ffilmograffi golygu

 
  • 1970: Nân va kuché / Bread and Alley – Iran – 10’
  • 1972: Zang-e tafrih / Recess – Iran – 11’
  • 1973: Tachrobé / The Experience – Iran – 53’
  • 1974: Mosafer / The Traveler – Iran – 70’
  • 1975: Do Rah-e hal bará-ye yek masalé / Two Solutions for One Problem – Iran – 4’
  • 1976: The Wedding Suit – Iran – 54’
  • 1977: The Report – Iran – 112’
  • 1982: Hamsarayán / The Chorus – Iran – 17’
  • 1983: Hamshahrí - Fellow Citizen - Iran - 52’
  • 1984: Avvalihá - First Graders – Iran – 85’
  • 1987: Jané-ye dust koyast? / Where is the Friend's Homre? – Iran – 80’
  • 1989: Mashgh-e shab / Homework – Iran – 90’
  • 1990: Close Up / Namá-ye nazdik – Iran – 100’
  • 1992: Zendegí var digar hich / Life, and Nothing More… – Iran – 92’
  • 1994: Zir-e derajtán-e zeytún / Through the Olive Trees – Iran – 108’
  • 1995: À propos de Nice, la suite – Ffrianc – 100’
  • 1995: Lumière et compagnie – Ffrainc – 88’
  • 1997: Ta’m-e gilás / The Taste of Cherry – Iran – 98’
  • 1999: Bad ma ra jahad bord / The Wind Will Carry Us – Iran – 115’)
  • 2001: ABC Africa – Iran/Ffrainc – 85’)
  • 2002: Dah - Ten – Iran/Ffrainc – 91’
  • 2003: Five Dedicated to Ozu – Iran – 74’
  • 2004: 10 on Ten – Iran /Ffrainc – 88’
  • 2005: Tickets – Yr Eidal Prydain – 115’, gydag Ermanno Olmi a Ken Loach
  • 2007: Chacun son cinéma – Ffrainc – 111’
  • 2008: Shirín – Iran – 92’
  • 2012: Like Someone in Love / Raiku samuwan in rabu – Japan – 109’

Gwler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-21. Cyrchwyd 2015-12-11.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 2015-12-11.
  3. http://www.countercurrents.org/arts-jeffries250405.htm