Samira Makhmalbaf
Mae Samira Makhmalbaf (ganwyd 15 Chwefror 1980) yn gyfarwyddwraig ffilm o Iran sydd wedi ennill nifer o wobrau mawr sinema rhyngwladol yn cynnwys wobr ffilm Cannes. Mae Samira yn ferch i Mohsen Makhmalbaf, un o gyfawryddwyr ffilm enwocaf Iran.[1]
Samira Makhmalbaf | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1980 Tehran |
Dinasyddiaeth | Iran |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr |
Tad | Mohsen Makhmalbaf |
Gwobr/au | Gwobr Sutherland, Jury Prize, Jury Prize |
Gwefan | http://www.makhmalbaf.com/ |
Gyrfa a ffilmiau
golyguYn 17 oed wnaeth Makhmalbaf ei ffilm hir cyntaf The Apple (1998). Hanes gwir dwy ferch fach a gadwyd yn gaeth yn y tŷ gan ei thad am 11 o flynyddoedd, yn wyrthiol berswadiodd Makhmalbaf y ddwy ferch a'r tad chwarae eu hunain yn y ffilm. Enillodd y ffilm ganmoliaeth fawr gan feirniad ffilm ar draws y byd ac fe'i gwahoddwyd i'w dangos mewn dros 100 o wyliau ffilm ar draws y byd. Yn 1999, wnaeth hi ei hail ffilm hir Blackboards yn Kurdistan am ffoaduriaid, yn cynnwys criw o athrawon yn dal eu byrddau duon ar ei chefnau, yn dianc ymosodiadau. Enillodd y ffilm wobr Gŵyl Cannes a gwobr anrhydedd Federico Fellini gan UNESCO.
Gyda nifer o gyfarwyddwyr enwog gyfrannodd hi ffilm fer ar gyfer un o'r 11 pennod i'r ffilm September 11.
Ffilmiwyd ei thrydydd ffilm At Five in the Afternoon yn Afghanistan eto am ffoaduriaid, y prif gymeriad yn ferch ifanc sydd yn ceisio mynd i'r ysgol yn gudd am fod addysg i ferched yn groes i syniadaeth y Taliban. Enillodd hi wobr Gŵyl Cannes am yr ail dro.
Dychwelodd hi i Afghanistan am ei phedwaredd ffilm Two-Legged Horse (2007).
Mae Makhmalbaf wedi brwydro'n gyson dros hawliau merched yn Iran.[2] Yn 2005 gadewodd ei thad Mohsen Makhmalbaf Iran yn wyneb gwrthynebiad gan y llyodaeth a charchariad y cynyrchydd Jafaar Panahi[3]. Yn 2013 ysgrifennod Samira lythyr agored i Lywodraeth Iran yn cwyno am ddiflaniad gwobrau ffilm y theulu o amgueddfa ffilm Tehran.[4]
Ffilmiau Samira Makhmalbaf
golygu- Two-legged Horse (2007)
- At Five in the Afternoon (2003)
- September 11 (Ffilm fer) (2002)
- Blackboards (1999)
- The Apple (1998)