Abberton, Essex

pentref yn Essex

Pentref a phlwyf sifil yn Essex, Dwyrain Lloegr, ydy Abberton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Colchester. Saif oddeutu 0.62 milltir (1.00 km) i'r dwyrain o Gronfa Ddŵr Abberton ac mae 4.2 milltir (6.8 km) i'r de o dref Colchester. Mae'r pentref yn etholaeth seneddol Gogledd Essex. Gwasanaethir y pentref gan Gyngor Plwyf Abberton a Langenhoe.

Abberton
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Colchester
Daearyddiaeth
SirEssex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.8337°N 0.9118°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE04003978 Edit this on Wikidata
Cod OSTM007190 Edit this on Wikidata
Cod postCO5 Edit this on Wikidata
Map

Mae swyddfa bost a thafarn yn y pentref.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 424.[2]

Hanes golygu

Cofnodir Abberton yn Llyfr Dydd y Farn (1086-7) fel Edburghetuna,[3] ac fel Edburgetuna yng Nghantref Winstree, pan oedd yn rhan o diroedd Eustace yn Essex, a deilwyd gan Ralph de Marcy ac a deilwyd ymhellach gan Ranulf Peverel mewn demen; fe'i deilwyd gan Siward, dyn rhydd, fel maenor, yn amser y Brenin Edward cyn y goncwest Normanaidd yn 1066.

Eglwys golygu

Eglwys blwyf Abberton yw Eglwys St Andrew. Fe'i lleolir ar ddiwedd Rectory Lane tua thri chan llath o Gronfa Ddŵr Abberton. Mae'r eglwys yn Adeilad bach o garreg a brics; mae'n cynnwys cangell, corff, porth deheuol a thŵr gorllewinol o frics sy'n cynnwys un gloch: adferwyd yr eglwys, ym 1884, ac eto ym 1917-18. Mae cofrestri'r eglwys yn dyddio o tua'r flwyddyn 1559.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 7 Gorffennaf 2021
  2. City Population; adalwyd 7 Gorffennaf 2021
  3. Abberton yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  4. History of Abberton Archifwyd 2020-08-06 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2 Medi 2018]


Oriel golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Essex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.