Abbotsfield, Ffordd Rhosddu, Wrecsam
Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Abbotsfield.
Math | gwesty, tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 86 metr |
Cyfesurynnau | 53.050735°N 2.995831°W |
Cod post | LL11 2LP |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae Abbotsfield yn sefyll ar Ffordd Rhosddu, ar y gyffordd gyda Ffordd Grosvenor, ar gyrion canol Wrecsam, yn ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor.
Hanes
golyguAdeiladwyd Abbotsfield yn 1863 fel tŷ preifat, yn seiliedig ar gynllun gan y pensaer lleol JR Gummow ar gyfer Mr Edward Jones. [1] Roedd Gummow yn gyfrifol ar gyfer rhan fawr o ddatblygiad maestrefol y dref yn rhan olaf y 19eg ganrif. [2]
Roedd Abbotsfield y tŷ cyntaf gafodd ei adeiladu ger y gyffordd rhwng Ffordd Grosvenor a Ffordd Rhosddu. Heddiw mae'r adeilad yn rhan o ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor. Abbotsfield, neu Abbotsfield Priory, oedd enw gwreiddiol y tŷ. [1]
Yn 1895, daeth y tŷ'n gartref i'r meddyg lleol John Arthur Eyton-Jones. Ar ôl cyfnod fel swyddfa cyngor, yn y saithdegau gwerthwyd y tŷ, pan ddaeth yn westy o'r enw Abbotsfield Priory Hotel. Yn 2010, ar ôl cyfnod fel bwyty Eidalaidd, cafodd y tŷ ei adnewyddu’n llawn. Heddiw, gwesty yw'r tŷ unwaith eto. The Lemon Tree yw ei enw presennol. [3]
Disgrifiad
golyguAdeilad Neo-gothig deulawr o dywodfaen yw Abbotsfield. Er gwaethaf presenoldeb estyniad modern, mae'r tŷ wedi cadw ei ymddangosiad gwreiddiol i raddau helaeth. Tu mewn i'r tŷ hefyd, mae nifer o nodweddion gwreiddiol, yn enwedig yn y cyntedd ac ar y grisiau. [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Abbotsfield Priory Hotel, Wrexham". Wrexham-history.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-05. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.
- ↑ "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.
- ↑ "About - The Lemon Tree". thelemontree.co.uk. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.
- ↑ "Abbotsfield Priory Hotel, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.