Ffordd Rhosddu, Wrecsam

ffordd yn Rhosddu


Prif ffordd yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yn arwain o ganol y ddinas mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol, yw Ffordd Rhosddu (Saesneg: Rhosddu Road). Mae rhan o'r ffordd o fewn ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor.

Hen Ysbyty Coffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych

Lleoliad

golygu

Mae Ffordd Rhosddu yn cysylltu canol Wrecsam â maestref Rhos-ddu i'r gogledd. Mae'r ffordd yn arwain o Sgwâr y Frenhines yng nghalon y ddinas, heibio adeiladau'r Cyngor a campws Coleg Cambria, i gylchfan fawr ar ffordd gylch fewnol. Ar ôl y gylchfan, mae'r ffordd yn parhau i faestref Rhos-ddu.

Tu hwnt i'r gyffordd gyda Ffordd Stansty, mae enw'r ffordd yn newid i New Road. Ar ôl hynny, mae'r ffordd yn arwain allan o'r ddinas, tuag at bentrefi Rhosrobin, Bradle a Llai.

Yn y Canol Oesoedd roedd ardal Ffordd Rhosddu yn rhan o dir comin Wrexham Regis. Yn 1655, sefydlwyd mynwent ar gyfer Anghydffurfiwr ar dir wedi'i brynu gan y llenor Morgan Llwyd. Ar ôl marwolaeth Morgan Llwyd yn 1659, fuodd y tir yn cael ei ddefnyddio am ddwy ganrif gan gapel y Bedyddwyr Stryt Caer. Yn 1960au, cafodd y fynwent ei thrawsnewid yn barc. [1]

Adeiladwyd y datblygiadau tai cyntaf yn Rhos-ddu yn 1856 ar ôl gyrraedd y rheilffordd yn yr ardal. Cynyddodd y boblogaeth ar ol i'r mwynglawdd Wrecsam & Acton agor yn yr 1860au. Yn 1863, adeiladwyd ar gornel Ffordd Rhosddu a Ffordd Grosvenor Abbotsfield, tŷ Neo-gothig o dywodfaen. Agorwyd yr Eglwys Sant Iago (St James's Church) yn 1876. Codwyd y Drindod, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ar ben dwyreiniol Stryt y Brenin, ar y gyffordd gyda Ffordd Rhosddu, yn 1902 ac fe'i hagorwyd yn 1908. Yn 1926, agorwyd Ysbyty Coffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych. [2]

Disgrifiad

golygu

Mae rhan o'r Ffordd Rhosddu, ar bwys campws Coleg Cambria, o fewn ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor. Y prif adeilad hanesyddol ar capmys Coleg Cambria yw hen Ysbyty Coffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych, adeilad trawiadol o fricsen gydag addurnau carreg. [3]

Mae Eglwys y Drindod yn sefyll ar y gyffordd rhwng Ffordd Rhosddu a Stryt y Brenin, yn ffurfio canolbwynt pwysig i olygfeydd ar hyd y ddwy stryd. Codwyd yr eglwys a'i chlochdwr ar wahân gan ddefnyddio brics coch lleol Rhiwabon. Mae'r eglwys yn adeilad rhestredig. [3]

Mae Abbotsfield, adeilad Neo-gothig rhestredig Gradd II, yn sefyll ar y gyffordd rhwng Ffordd Rhosddu a Ffordd Grosvenor, yn yr ardal gadwraeth. Adeiladwyd y tŷ yn 1863, yn seiliedig ar gynllun gan y pensaer lleol JR Gummow. [4]

Tirnod pwysig arall ar Ffordd Rhosddu yw mynwent yr Anghydffurfiwr (Saesneg: Dissenters' Burial Ground). Er bod y fynwent wedi cael ei thrawsnewid yn barc, mae'r beddfeini yn dal ar y safle. Cafodd Morgan Llwyd ei gladdu yn y fynwent, ac yn 1912 cafodd cofeb Morgan Llwyd ei dadorchuddio gan David Lloyd George. [1]

Mae'r Eglwys Sant Iago yn sefyll i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas, ar ochr orllewinol y stryd, mewn ardal o dai Fictoraidd. Mae'r eglwys rhestredig Gradd II wedi cadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol. [5]

  1. 1.0 1.1 "Dissenters Burial Ground 1655". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-03. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.
  2. "Wrexham Infirmary and Wrexham Memorial Hospital, records of". JISC Archives Hub. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.
  3. 3.0 3.1 "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.
  4. "Abbotsfield Priory Hotel, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.
  5. "Church of St James, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.