Abdullah al-Baradouni
Bardd o Iemen oedd Abdullah al-Baradouni (1929 – 30 Awst 1999).[1]
Abdullah al-Baradouni | |
---|---|
Ganwyd | عبد الله صالح حسن الشحف البَرَدُّوْنِي 1 Ionawr 1929 Q12184372 |
Bu farw | 30 Awst 1999 Sana'a |
Dinasyddiaeth | Iemen |
Galwedigaeth | bardd, athro, hanesydd, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon |
Gwefan | http://www.albaradoni.com |
Ganwyd yn Zaraja a chafodd ei fagu yn Dhamar. Cafodd ei heintio gan y frech wen yn 6 oed a'i ddallu. Cafodd ei addysgu yn y brifddinas Sana'a, a dysgodd llenyddiaeth Arabeg ac hanes gwleidyddol mewn ysgol grefyddol.
Yn y 1950au cafodd ei garcharu am ei wrthwynebiad i'r imamiaid Zaydi oedd yn rheoli'r wlad. Wedi i'r fyddin ddymchwel y frenhiniaeth ym 1962, cafodd Baradouni ei garcharu unwaith eto am ei daliadau adain-chwith. Yn ogystal, cafodd ei alw'n anghrediniwr gan ffwndamentalwyr Mwslimaidd oherwydd ei gefnogaeth dros hawliau merched a democratiaeth. Yn y 1970au daeth yn gadeirydd ar Undeb Llenorion Iemen.
Ysgrifennodd 12 cyfrol o farddoniaeth a chwe llyfr ar bynciau gwleidyddol, llenyddol, llên gwerin, a gwisg. Ymddiddorodd yn nhraddodiadau hynafol Iemen, gan gynnwys llawddewiniaeth a darogan ffa coffi. Fe gofnododd hen gorganeuon sydd yn adrodd hanes y llwythau Iemenaidd a guddiodd mewn ogofâu rhag y Rhufeiniaid.
Bu farw yn 70 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Lawrence Joffe, Obituary: Abdullah al-Baradouni, The Guardian (9 Medi 1999). Adalwyd ar 30 Tachwedd 2017.