Hawliau menywod

(Ailgyfeiriad o Hawliau merched)

Hawliau menywod yw'r hawliau hynny a hawlir ar gyfer menywod a merched ledled y byd. Roeddent yn sail i'r mudiad hawliau merched yn y 19g a'r mudiadau ffeministaidd yn ystod yr 20fed a'r 21g. Mewn rhai gwledydd, mae'r hawliau hyn yn cael eu sefydliadoli neu eu cefnogi gan gyfraith, arferion lleol, ac ymddygiad o ddydd i ddydd, tra mewn eraill, maent yn cael eu hanwybyddu a'u hatal. Maent yn wahanol i syniadau ehangach o hawliau dynol drwy honiadau o duedd gynhenid hanesyddol a thraddodiadol yn erbyn hawliau menywod a merched, ac o blaid dynion a bechgyn.[1]

Hawliau menywod
Enghraifft o'r canlynolcysyniad Edit this on Wikidata
Mathsubjective right, hawliau dynol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmen's rights Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae materion a gysylltir yn gyffredin â syniadau am hawliau menywod yn cynnwys yr hawl i gyfanrwydd corfforol ac ymreolaeth, i fod yn rhydd rhag trais rhywiol, i bleidleisio, i ddal swydd gyhoeddus, i ymrwymo i gontractau cyfreithiol, i gael hawliau cyfartal mewn cyfraith teulu, i weithio, i gyflog teg neu gyflog cyfartal, i gael hawliau atgenhedlu, i berchen ar eiddo, ac i dderbyn addysg.[2]

Gorllewin Ewrop

golygu

Roedd hawliau merched yn cael eu hamddiffyn gan yr Eglwys Gristnogol Ganoloesol gynnar: cyhoeddwyd un o'r darpariaethau cyfreithiol ffurfiol cyntaf ar gyfer hawliau gwragedd gan gyngor yr Adge yn 506, a nododd yn Canon XVI, pe bai gŵr ifanc priod yn dymuno cael ei ordeinio, y dylai fynnu caniatad ei wraig.[3]

Roedd yr Eglwys Seisnig a diwylliant Seisnig yr Oesoedd Canol yn ystyried merched yn wan, yn afresymol, yn agored i demtasiwn, ac angen eu cadw dan reolaeth yn barhaus.[4]

Yn gyffredinol yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd merched yn israddol i ddynion mewn statws cyfreithiol.[5] Rhoddwyd pwysau ar fenywod i beidio â mynychu'r llysoedd a gadael yr holl faterion busnes cyfreithiol i'w gwŷr. Yn y rhan fwyaf o systemau cyfreithiol, roedd merched yn cael eu hystyried fel eiddo i ddynion.[5]

Yng nghyfraith Cymru, gellid derbyn tystiolaeth menywod tuag at fenywod eraill ond nid yn erbyn dynion, ond roedd cyfreithiau Cymru, yn benodol Cyfreithiau Hywel Dda, hefyd yn adlewyrchu fod yn rhaid i ddynion dalu cynhaliaeth plant am blant a aned y tu allan i briodas, a oedd yn grymuso menywod i hawlio taliadau ariannol dilys.[6]

Yn Ffrainc, fel y rhan fwyaf o wledydd, ni allai merched weithredu fel ynadon yn y llysoedd, bod yn atwrneiod neu’n aelodau o reithgor, na chyhuddo person arall o ffeloniaeth oni bai mai llofruddiaeth ei gŵr oedd hynny.[7] Ar y cyfan, y peth gorau y gallai menyw ei wneud yn y llysoedd canoloesol oedd arsylwi ar yr achos cyfreithiol.

Roedd cyfraith Sweden yn amddiffyn menywod rhag awdurdod y llys trwy drosglwyddo'r awdurdod i'w perthnasau gwrywaidd.[8] Ni allai'r gŵr ychwaith gymryd eiddo a thir gwraig heb ganiatâd ei theulu ond ni allai'r wraig ychwaith.[8] Roedd hyn yn golygu na allai menyw drosglwyddo ei heiddo i'w gŵr ychwaith heb ganiatâd ei theulu neu ei pherthnasau. Yng nghyfraith Sweden, ni fyddai merched yn cael dim ond hanner yr hyn sydd gan ei brawd yn etifeddiaeth.[8]

Trefnwyd priodasau canoloesol ymhlith yr uchelwyr mewn ffordd a fyddai’n bodloni buddiannau’r teulu cyfan.[5] Yn ddamcaniaethol roedd angen i fenyw gydsynio cyn i briodas ddigwydd ac roedd yr Eglwys yn annog y caniatâd hwn i gael ei fynegi yn yr amser presennol ac nid yn y dyfodol.[5] Gallai priodas ddigwydd yn unrhyw le hefyd a'r oedran lleiaf ar gyfer merched, yn gyffredinol, oedd 12, ac 14 ar gyfer bechgyn.[5]

Roedd cyfreithiau arferol yn ffafrio dynion yn fwy na merched.[9] Er enghraifft, trosglwyddwyd yr ystad, ymhlith yr uchelwyr yn yr Eidal, Lloegr, Sgandinafia a Ffrainc, i'r etifedd gwrywaidd hynaf. Ym mhob un o'r mannau hyn, roedd y deddfau hefyd yn rhoi pwerau sylweddol i ddynion dros fywydau, eiddo a chyrff eu gwragedd.[9]

Yn ôl Cyfraith Gwlad Lloegr, a ddatblygodd o'r 12g ymlaen, daeth yr holl eiddo a oedd gan wraig ar adeg y briodas yn feddiant i'w gŵr. Yn y diwedd, gwaharddodd llysoedd Lloegr i ŵr drosglwyddo eiddo heb ganiatâd ei wraig, ond daliodd ati i gadw’r hawl i’w reoli ac i dderbyn yr arian a gynhyrchwyd gan yr eiddo. Credai'r Crynwyr yng ngwledydd Prydain ac America fod dynion a merched yn gyfartal.[10]

Mabwysiadwyd y Datganiad ar Ddileu Trais yn Erbyn Menywod gan y Cenhedloedd Unedig ym 1993. Mae’n diffinio trais yn erbyn menywod fel “unrhyw weithred o drais ar sail rhywedd sy’n arwain at, neu sy’n debygol o arwain at, niwed neu ddioddefaint corfforol, rhywiol neu seicolegol i fenywod, gan gynnwys bygythiadau o weithredoedd o’r fath, gorfodaeth neu amddifadu'r fenyw o ryddid, mewn bywyd cyhoeddus neu'n breifat."[11] Sefydlodd y penderfyniad hwn fod gan fenywod yr hawl i fod yn rhydd rhag trais. O ganlyniad i'r penderfyniad, ym 1999, datganodd y Cynulliad Cyffredinol mai 25 Tachwedd oedd y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod.

Hawliau Dynol

golygu

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig

golygu

Mae'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd ym 1948, yn ymgorffori "hawliau cyfartal dynion a merched", ac yn mynd i'r afael â materion cydraddoldeb a chydraddoldeb.[12] Ym 1979, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) ar gyfer gweithrediad cyfreithiol y Datganiad ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod. Fe’i disgrifir fel mesur hawliau rhyngwladol i fenywod, a daeth i rym ar 3 Medi 1981. Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig nad ydynt wedi cadarnhau'r confensiwn yw Iran, Palau, Somalia, Swdan, Tonga, a'r Unol Daleithiau. Nid yw Niue a Dinas y Fatican yn aelod-wladwriaethau, wedi cadarnhau'r confensiwn ychwaith.[13] Y wladwriaeth ddiweddaraf i ddod yn barti i'r confensiwn yw De Swdan, a hynny ar 30 Ebrill 2015. [14]

Mae’r Confensiwn yn diffinio gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y termau canlynol:

Unrhyw wahaniaeth, gwaharddiad neu gyfyngiad a wneir ar sail rhyw sydd â’r effaith neu’r diben o amharu ar neu ddiddymu cydnabyddiaeth, mwynhad neu ymarfer gan fenywod, ni waeth beth fo’u statws priodasol, ar sail cydraddoldeb dynion a menywod, o hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn y maes gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, sifil neu unrhyw faes arall.

Penderfyniad 1325 gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig

golygu

Ar 31 Hydref 2000, mabwysiadodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn unfrydol Benderfyniad 1325 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, y ddogfen ffurfiol a chyfreithiol gyntaf gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob gwladwriaeth barchu cyfraith ddyngarol ryngwladol lawn a chyfraith hawliau dynol rhyngwladol sy'n berthnasol i'r hawliau ac amddiffyn merched a menywod yn ystod ac ar ôl y gwrthdaro arfog.

Trais yn erbyn merched

golygu

Datganiad y Cenhedloedd Unedig

golygu
 
Menyw ifanc o Tsieina a oedd yn un o "fataliynau cysur" Byddin Ymerodrol Japan yn cael ei chyfweld gan swyddog y Cynghreiriaid.

Mae trais rhywiol, a elwir weithiau yn ymosodiad rhywiol, yn ymosodiad gan berson sy'n ymwneud â chyfathrach rywiol neu dreiddiad rhywiol person arall heb ganiatâd y person hwnnw. Caiff ei ystyried yn gyffredinol yn drosedd rhyw difrifol yn ogystal a bod yn ymosodiad sifil. Pan fo trais rhywiol yn rhan o arfer eang a systematig, mae'n cael ei gydnabod fel trosedd yn erbyn dynoliaeth yn ogystal â bod yn drosedd rhyfel. Mae trais rhywiol hefyd yn cael ei gydnabod bellach fel math o hil-laddiad pan gaiff ei gyflawni gyda’r bwriad o ddinistrio grŵp targed.

Fel trosedd yn erbyn dynoliaeth

golygu

Mae Memorandwm Esboniadol Statud Rhufain, sy'n diffinio awdurdodaeth y Llys Troseddol Rhyngwladol, yn cydnabod trais rhywiol, caethwasiaeth rywiol, puteindra gorfodol, beichiogrwydd gorfodol, sterileiddio gorfodol, "neu unrhyw fath arall o drais rhywiol o ddifrifoldeb tebyg" fel trosedd yn erbyn dynoliaeth os yw'r gweithredu yn rhan o arfer eang neu systematig.[15][16] Mae Datganiad a Rhaglen Weithredu Fienna hefyd yn condemnio trais rhywiol systematig yn ogystal â llofruddiaeth, caethwasiaeth rywiol, a beichiogrwydd gorfodol, fel "troseddau yn erbyn egwyddorion sylfaenol hawliau dynol rhyngwladol a chyfraith ddyngarol." ac angen ymateb sydyn ac effeithiol.[17]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hosken, Fran P., 'Towards a Definition of Women's Rights' in Human Rights Quarterly, Vol. 3, No. 2. (May 1981), pp. 1–10.
  2. Lockwood, Bert B. (ed.), Women's Rights: A "Human Rights Quarterly" Reader (Johns Hopkins University Press, 2006), ISBN 978-0-8018-8374-3.
  3. Halfond, Gregory I. (2010). Archaeology of Frankish Church Councils, AD 511–768 (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-9004179769.
  4. Ward, Jennifer (2006). Women in England in the middle ages. New York: A & C Black. tt. 3–4. ISBN 978-1852853464.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Bardsley, Sandy (1 January 2007). Women's Roles in the Middle Ages. Greenwood Publishing Group. ISBN 9780313336355.
  6. "Women, Linen and Gender in the Cyfraith Hywel Dda – Laidlaw Scholarships". laidlawscholarships.wp.st-andrews.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-22. Cyrchwyd 2020-10-09.
  7. Mitchell, Linda E. (12 November 2012). Women in Medieval Western European Culture. Routledge. ISBN 9781136522031.
  8. 8.0 8.1 8.2 Beattie, Cordelia; Stevens, Matthew Frank (1 January 2013). Married Women and the Law in Premodern Northwest Europe. Boydell Press. ISBN 9781843838333.
  9. 9.0 9.1 Smith, Bonnie G (2008). The Oxford Encyclopedia of Women in World History: 4 Volume Set. London, UK: Oxford University Press. tt. 428–29. ISBN 978-0-19-514890-9.
  10. W. J. Rorabaugh, Donald T. Critchlow, Paula C. Baker (2004). "America's promise: a concise history of the United States[dolen farw]". Rowman & Littlefield. p. 75. ISBN 978-0-7425-1189-7.
  11. United Nations General Assembly. "A/RES/48/104 – Declaration on the Elimination of Violence against Women – UN Documents: Gathering a body of global agreements". un-documents.net. Cyrchwyd 8 October 2015.
  12. "Universal Declaration of Human Rights". Cyrchwyd 17 May 2015.
  13. "UNTC". United Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-06. Cyrchwyd 8 October 2015.
  14. "UNTC". United Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-06. Cyrchwyd 18 July 2016.
  15. As quoted by Guy Horton in Dying Alive – A Legal Assessment of Human Rights Violations in Burma April 2005, co-Funded by The Netherlands Ministry for Development Co-Operation. See section "12.52 Crimes against humanity", p. 201. He references RSICC/C, Vol. 1 p. 360.
  16. "Rome Statute of the International Criminal Court". United Nations. Cyrchwyd 30 August 2011.
  17. Vienna Declaration and Programme of Action, Section II, paragraph 38.