Afon Geirch
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Aber Geirch)
Afon yn Llŷn, Gwynedd, Cymru, yw Afon Geirch. Mae'n aberu ym Mae Caernarfon ger Porthdinllaen. Ei hyd yw tua 7 milltir.
Aber Afon Geirch | |
Math | afon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.932443°N 4.575672°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Tardda Afon Geirch yng ngwlybdiroedd Cors Geirch, sy'n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ger Rhyd-y-clafdy tua 4 milltir i'r gorllewin o dref Pwllheli. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-orllewin gan basio Garn Boduan ac Edern i gyrraedd y môr ym mae Aber Geirch, i'r de o Borthdinllaen a thua 1.5 milltir i'r gorllewin o Forfa Nefyn.[1] Mae Llwybr Arfordir Llŷn yn mynd trwy Aber Geirch.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 123.