Bryn 280 metr o uchder gerllaw Nefyn ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Garn Boduan gyda bryngaer o Oes yr Haearn[1] ar ei gopa (cyfeiriad grid SH310392). Mae'r gaer yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru gydag arwynebedd o tua deg hectar;[2] cyfeiriad grid SH312393. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 107metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Garn Boduan

(Penrhyn Llŷn)
Copa Garn Boduan gyda'r cytiau crynion o fewn y fryngaer
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Copa Garn Boduan gyda'r cytiau crynion o fewn y fryngaer
Uchder (m) 279
Uchder (tr) 915
Amlygrwydd (m) 172
Lleoliad Pen Llŷn
Map topograffig Landranger 123;
Explorer 253
Cyfesurynnau OS SH312393
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd)
Garn Boduan is located in Cymru
Garn Boduan (Cymru)
Copa Garn Boduan.jpg

Gellir cyrraedd Garn Boduan trwy ddilyn llwybr oddi ar y B4354, rhyw 300 metr o'r briffordd A497.

Y copaGolygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 279m (915tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Y fryngaerGolygu

 
 
Bryngaer Garn Boduan
Bryngaer Garn Boduan, Buan

Mae'r Garn, hefyd, yn safle bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn[1], ac sydd wedi'i lleoli ger Buan; cyfeirnod OS: SH313393.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN009.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. O ran cynllun mae'n weddol debyg i Tre'r Ceiri gerllaw, gyda muriau cerrig yn amgylchynu arwynebedd o tua 10 hectar. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion o leiaf 170 o dai crwn. Ar yr ochr ddwyreiniol mae caer fechan arall a allai fod yn ddiweddarach o ran dyddiad.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO).
  2. Gwefan y BBC
  3. “Database of British and Irish hills”
  4. Cofrestr Cadw.
  5. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. Gwefan y BBC
  7. Gwefan CPAT

Dolenni allanolGolygu