Abingdon-on-Thames

tref yn Swydd Rydychen

Tref a phlwyf sifil yn ne Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Abingdon-on-Thames[1] neu Abingdon, a leolir i'r de o ddinas Rhydychen. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Vale of White Horse. Cyn 1974 bu'n rhan o Berkshire; yn wir, hyd 1867 hi oedd tref sirol y swydd hon, ac mae hen neuadd Berkshire yng nghanol y dref yn amgueddfa heddiw.

Abingdon-on-Thames
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolAbingdon on Thames
Poblogaeth33,130 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Argentan, Colmar, Schongau, Sint-Niklaas, Lucca Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Rydychen
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd9.09 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSunningwell, St. Helen Without, Drayton, Sutton Courtenay, Radley, Culham Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6717°N 1.2783°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU4997 Edit this on Wikidata
Cod postOX14 Edit this on Wikidata
Map

Saif ar lan Afon Tafwys, ac mae Afon Ock yn ymuno gyda Thafwys yn y dref. Yn 2007 roedd llifogydd ar afon Ock, ac effeithiwyd ar nifer o dai yng ngorllewin Abingdon. Mae Caerdydd 132.6 km i ffwrdd o Abingdon ac mae Llundain yn 83.5 km. Y ddinas agosaf ydy Rhydychen sy'n 9.2 km i ffwrdd.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 33,130.[2]

Roedd rheilffordd i Abingdon, ond mae wedi cau ac mae'r orsaf agosaf heddiw yn Radley, dau filltir i ffwrdd.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 19 Mai 2020
  2. City Population; adalwyd 17 Tachwedd 2020


  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.