Tref yn Nyffryn Tafwys, yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Didcot.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Rydychen. Saif y dref tua 10 milltir i'r de o ddinas Rhydychen.

Didcot
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal De Swydd Rydychen
Gefeilldref/iMeylan, Planegg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Rydychen
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd8.48 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEast Hagbourne, South Moreton, Long Wittenham, Appleford-on-Thames, Harwell, West Hagbourne, Sutton Courtenay Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6061°N 1.2411°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012477, E04008122 Edit this on Wikidata
Cod OSSU525900 Edit this on Wikidata
Cod postOX11 Edit this on Wikidata
Map

Mae Caerdydd 134.6 km i ffwrdd o Didcot ac mae Llundain yn 79.4 km. Y ddinas agosaf ydy Rhydychen sy'n 17 km i ffwrdd.

Hanes golygu

Mae Didcot yn dyddio o Oes yr Haearn. Codwyd bryngaer ar y grib yn y dref, efo'r wern o'i chwmpas. Ceisiodd y Rhufeinwyr sychu'r wern gan gloddio ffos trwy ardal i'r gogledd o'r dref. Yn y 1200au y mae'r tro cyntaf yr ymddangosir Didcot mewn cofnodion hanesyddol, fel Dudcott. Cadwodd y dref boblogaeth o tua 100 o bobl dros ganrifoedd, tra bod rhai bentrefi cyfagos, sydd yn fychain o'u cymharu â Didcot modern, yn fwy.

Adeiladwyd rheilffordd rhwng Llundain a Bryste trwy Didcot yn 1839, ac agorwyd yr orsaf yn 1844. Erbyn hyn, mae'r brif reilffordd sy'n rhedeg trwy Didcot yn gwasanaethu De Cymru hefyd, ac yma mae llinell arall, i Rydychen a Chanolbarth Lloegr, yn gwahanu ohono. Elwir yr orsaf yn Didcot Parkway erbyn hyn.

Roedd y dref yn Berkshire, nes i ffiniau'r swyddi gael eu hail-drefnu yn 1974.

 
Gorsaf drenau Didcot Parkway, gan edrych tua'r gorllewin

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 19 Mai 2020


  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.