Abraham Cahan
Newyddiadurwr a ffuglennwr yn yr ieithoedd Iddew-Almaeneg a Saesneg a gwleidydd sosialaidd o Ymerodraeth Rwsia a ymfudodd i Unol Daleithiau America oedd Abraham Cahan (7 Gorffennaf 1860 – 31 Awst 1951) sydd yn nodedig am sefydlu a golygu am 40 mlynedd y papur newydd Iddew-Almaeneg Forverts.
Abraham Cahan | |
---|---|
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1860 Paberžė |
Bu farw | 31 Awst 1951 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, nofelydd |
Ganed ef yn Vilna, Ymerodraeth Rwsia (bellach Vilnius, Lithwania), ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1882. Treuliodd chwe mlynedd yn gweithio mewn ffatri sigarau ac yn dysgu'r Saesneg, a chafodd ddigon o grap ar yr iaith i ddechrau darlithio ac ysgrifennu trwy ei chyfrwng. Sefydlodd y papur newydd Forverts yn Efrog Newydd ym 1897 a daeth yn olygydd yr hwnnw ym 1902. Sosialydd pybyr ydoedd, ac yn wrth-gomiwnydd a mynegai'r syniadaeth honno yn Forverts. Gweithiodd Cahan hefyd i drefnu undebau llafur, yn enwedig yn y diwydiant dillad a oedd yn cyflogi nifer o Iddewon Efrog Newydd.[1]
Nofel bwysicaf Cahan yw The Rise of David Levinsky (1917), un o'r llyfrau cyntaf am brofiad y mewnfudwr Iddewig i Efrog Newydd. Bu farw Abraham Cahan yn Efrog Newydd yn 91 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Abraham Cahan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2023.