Abraham Ortelius
hanesydd, engrafwr, daearyddwr, mapiwr (1527-1598)
Cartograffydd a hynafiaethydd o Fflandrys oedd Abraham Ortelius (1527 - 1598). Ei waith enwocaf yw'r Theatrum Orbis Terrarum, atlas o'r byd cyfan (fel y'i adnabuwyd ar y pryd) a gydnabuwyd fel y casgliad safonol o fapiau ar ddiwedd yr 16g a dechrau'r ganrif olynol.[1]
Abraham Ortelius | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1527 Antwerp |
Bu farw | 28 Mehefin 1598, 29 Mehefin 1598 Antwerp |
Dinasyddiaeth | yr Iseldiroedd Sbaenaidd |
Galwedigaeth | mapiwr, hanesydd, engrafwr, daearyddwr, archeolegydd, afsetter |
Adnabyddus am | Theatrum Orbis Terrarum |
Arddull | map |
llofnod | |
Teithiodd Ortelius yn eang i gasglu gwybodaeth a hynafiaethau. Cafodd swydd fel daearyddwr yn llys Philip II, brenin Sbaen, yn 1575.
Roedd yn adnabod yr hynafiaethydd Cymreig Humphrey Lhuyd, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum orbis terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rebecca Stefoff (1995). The British Library Companion to Maps and Mapmaking (yn Saesneg). British Library. t. 209. ISBN 978-0-7123-0650-8.