Humphrey Lhuyd
Meddyg, cartograffydd, hynafiaethydd ac awdur o Gymru oedd Humphrey Lhuyd, weithiau Humphrey Llwyd (1527 – 21 Awst 1568).[1][2]
Humphrey Lhuyd | |
---|---|
Ganwyd | 1527 Dinbych |
Bu farw | 31 Awst 1568 Cymru |
Man preswyl | Foxhall |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mapiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament |
Tad | Robert Llwyd |
Mam | Joan Pigott |
Priod | Barbara Lumley |
Plant | Lumley Lloyd |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Foxhall yn Ninbych yn fab i Robert Llwyd (a oedd yn ddisgynnydd i Harry Rossendale, un o swyddogion 3ydd Iarll Lincoln). Symudodd Foulk Rosindale o Loegr i Gymru a phriododd un o deulu Llwydiaid Aston, o ble daeth y cyfenw gan roi enw'r Foulkes ar y plasty newydd 'Foulkes Hall' - Foxhall bellach, sy'n dal i sefyll.
Fe'i addysgwyd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen ac roedd yn gyfoeswr i Thomas Salisbury a William Morgan. Bu'n feddyg preifat i Henry FitzAlan, 19eg Iarll Arundel am gyfnod, cyn dychwelyd i Ddinbych ym 1563. Ynghyd â llyfrgell Arundel, ei lyfrgell personol ef oedd craidd y Casgliad Brenhinol - a gedwir heddiw yn y Llyfrgell Brydeinig.[3] Bu'n Aelod Seneddol dros East Grinstead yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, Brenhines Lloegr (1559).
Ei arwyddair oedd: Hwy pery klod na golyd.[3] Cedwir ar glawr marwnad iddo gan Lewis ab Edward. Priododd Barbara, aeres yr Arglwydd Lumley, a bu iddynt bedwar o blant. Bu farw yn Ninbych, a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen yno.
Ei waith
golygu-
Fersiwn 1606 o waith gan Humphrey Llwyd (map 1573 o Gymru: Cambriae Typus) a olygwyd gan Peter Kaerius.
-
Map o Gymru gan Llwyd a gyhoeddwyd yn Atlas Lord Burghley yn 1579.
-
Cambriae Typus.
-
Cyhoeddiad Hondius, Hendrik, 1633
Yn ogystal a'r cyhoeddiadau a nodir isod, cyhoeddodd Lhuyd The Description of Cambria, fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Prise, Aberhonddu. Defnyddiodd David Powel y gwaith hwn fel sylfaen i'w lyfr The Historie of Cambria (1584).
Roedd yn adnabod Abraham Ortelius, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum Orbis Terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr. Rhain oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd hyn i'w hargraffu ar wahân.
Rheol Tintur
golyguEfallai nad yw'n syndod, o gofio ei ddiddordeb ac ymwneud â maes argraffu a mapiau, i Humphrey Lhuyd lunio Rheol Tintur (The Rule of Tincture) ar y ddefnydd a chyferbyniad lliw wrth lunio arfbeisiau a dylunio'n gyffredinol. Mae'r rheolau yma mor gyfredol heddiw ag yr oeddynt yn 1568 pan ysgrifennodd Lhuyd, "metal should not be put on metal, nor colour on colour"; metal = lliw aur (melyn) arian (gwyn) ar liw, coch, glas, gwyrdd ag ati: rheol y mae, yn eironig, hanner waelod baner Cymru yn ei dorri wrth i hanner waelod y Ddraig Goch orwedd ar lain werdd - gan, felly, dorri rheol i beidio rhoi "lliw ar liw" Lhuyd.
Cyhoeddiadau
golygu- An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever
- Cronica Walliae (1559)
- De Mona Druidium Insulâ (sef 'Ynglŷn â Derwyddon Ynys Môn')
- Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum (Cwlen, 1572) - cyfieithwyd i'r Saesneg gan Thomas Twyne fel The Breviary of Britayne (1573)
- The Treasury of Health (1585)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad marwolaeth yn ol LlGC ar Trydar oedd 21 Awst 1568. Gweler: Trydar.
- ↑ "LLWYD (LHUYD), HUMPHREY (c. 1527 - 1568), hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-18.
- ↑ 3.0 3.1 R. Brinley Jones, ‘Llwyd, Humphrey (1527–1568)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Erthygl ar Humphrey Lhuyd gan G. Penrhyn Jones Archifwyd 2013-08-01 yn archive.today