Map
Cynrychiolaeth weledol o ardal ddaearyddol yw map, hynny yw, dadansoddiad symbolaidd sy'n tynnu sylw at y berthynas rhwng yr elfennau yn y lle megis gwrthrych, ardaloedd a themâu. Crewyd y map cyntaf o Gymru gan Humphrey Lhuyd yn 1573 a chyhoeddwyd ef yn Antwerp.
Mae llawer o fapiau ar ffurf modelau geometrig 3D a chaesian gynrychioli geometreg yn fanwl gywir ond yn statig, tra bod eraill yn ddeinamig a rhyngweithiol. Yn aml maent hefyd yn ddarnau o gelfyddyd.
Ymddangosodd nifer o fapiau bras iawn o Gymru yn yr Oesoedd Canol gan bobl megis Mathew Paris (tua 1250) a'r murfap Mappa Mundi (tua 1290) a welir heddiw yn eglwys gadeiriol Henffordd. Yn 1694 llosgwyd map a wnaed gan Gerallt Gymro yn 1194, a dim ond disgrifiad ohono sydd bellach i'w gael. Carreg filltir arall yn hanes mapiau o Gymru yw'r atlas honno a luniwyd yn 1579 gan Christopher Saxton - casliad o fapiau o'r 13 sir yng Nghymru. Lluniodd George Owen fap o Sir Benfro a chyhoeddwyd hwnnw yn y Britannia gan William Camden yn 1602. Dylanwadodd mapiau Humphrey Lhuyd a Christopher Saxton ar waith John Speed yn enwedig ar ei waith Theatre of the Empire of Great Britain (1611), sy'n cynnwys mapiau o Gymru a'i siroedd, a chynlluniau trefi ar bob un - elfen newydd ar fap. Atlas cyntaf Cymru oedd The Principality of Wales Exactly Described yn 1718 gan Thomas Taylor. Lluniodd Morris arolwg o arfordir Cymru yn 1748 ac yn llawnach yn 1801.[1]
Mathau gwahanol o fapiau
golyguMae yna sawl gwahanol fath o fap ar gael. Mae pwrpas arbennig i bob arddull ac mae pob un yn cynrychioli gwybodaeth mewn ffordd benodol.
Map Topograffig
golyguMae mapiau topograffig yn arddangos prif nodweddion y tirwedd ffisegol megis bryniau, afonydd a dyffrynoedd. Maent hefyd yn arddangos nodweddion dynol megis aneddiadau a chyfarthrebau.
Cartogram
golyguMae cartogramau yn eithaf cymhleth i'w llunio. Mae maint ac arwynebedd yn cyfateb i faint y data sy'n cael ei gynrychioli.
Map Coropleth
golyguMae mapiau cloropleth yn arddangos data rhanbarthol trwy liw.
Map Dot
golyguMae mapiau dot yn arddangos gwerth rhif ar fap trwy gylchoedd yn ôl ei maint. Maent yn arddangos ffactorau megis poblogaeth yn effeithiol.
Map Isopleth
golyguMae'r llinellau ar fap isopleth yn uno pob lle sydd a'r un gwerth. Maent yn arddangos ffactorau megis tymheredd yn effeithiol.
Map Symbol
golyguMae mapiau symbolau pwynt yn dangos ble yn union mae modd gweld nodwedd neilltuol.
-
Map Topograffig
-
Cartogram
-
Map Coropleth
-
Map Isopleth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru 2008; tudalen 601