Yr Academi Frenhinol Gymreig

sefydliad yng Nghonwy, ar gyfer arlunwyr
(Ailgyfeiriad o Academi Frenhinol Gymreig)

Sefydliad annibynnol sy'n ymwneud â rhagoriaeth ym myd celf yng Nghymru yw'r Academi Frenhinol Gymreig (Saesneg: Royal Cambrian Academy). Lleolir ei phrif oriel ger Plas Mawr yn nhref Conwy, Sir Conwy.

Yr Academi Frenhinol Gymreig
Math o gyfrwngcanolfan y celfyddydau, oriel gelf, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1881 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Map
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
RhanbarthConwy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://rcaconwy.org/ Edit this on Wikidata
Plas Mawr, Conwy

Sefydlwyd yr academi gan grŵp o artistiaid gyda ddiddordeb ynglyn a thirlun Gogledd Cymru. Cafodd artistiaid o Ogledd Cymru, Lerpwl a Manceinion cyfarfod â’i gilydd yng Nghyffordd Llandudno ym 1881, yn galw eu hunain "Academi Gelf Gymreig". Yn 1882 rhoddodd y Frenhines Victoria y teitl "Frenhinol" iddynt.[1] Yn yr un blwyddyn trefnodd yr academi arddangodfa enfawr yng Nghaerdydd, gyda chatalog o 200 tudalen. Yn 1885 rhoddodd Arglwydd Mostyn brydles ei blasdy Plas Mawr, Conwy, i'r academi am eu defnydd fel oriel.[1]

Yn 1994 adeiladodd yr academi oriel newydd tu ol i Plas Mawr, gan adael yr hen adeilad yn barhaol.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2  Kitchin, Myfanwy (1999). Hanes byr yr Academi Frenhinol Gymreig. Academi Frenhinol Gymreig. Adalwyd ar 17 Awst 2024.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.