Achos Paul Chambers
Achos llys ynghylch sylw a gyhoeddwyd ar wefan Twitter yn 2010 oedd achos Paul Chambers neu achos jôc Twitter.
Math o gyfrwng | achos troseddol |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Yn ystod gaeaf 2009–2010, aflonyddodd tywydd oer fywyd ar draws gogledd Lloegr. Roedd Maes Awyr Robin Hood yn un o nifer o feysydd awyr a wnaeth ganslo ehediadau. Ar 6 Ionawr 2010,[1] postiodd Paul Chambers neges ar Twitter:
Crap! Robin Hood airport is closed. You've got a week and a bit to get your shit together otherwise I'm blowing the airport sky high!![2]
Cafodd ei arestio wrth ei waith mewn swyddfa gan heddlu gwrth-derfysgaeth wythnos yn ddiweddarach,[1] am wneud bygythiad o fomio,[2] wedi i reolwr o'r maes awyr nad oedd ar ddyletswydd canfod y neges wrth wneud chwiliad ar-lein.[1] Atafaelwyd ei ffôn symudol, ei liniadur, a'i ddisgyrrwr caled yn ystod chwiliad o'i dŷ.[2] Cafodd ei gyhuddo o "ddanfon neges electronig gyhoeddus sy'n anferthol o dramgwyddus neu o gymeriad anweddus, anllad neu fygythiol yn groes i Ddeddf Cyfathrebu 2003".[1][3] Ar 10 Mai, cafwyd yn euog gan lys ynadon Doncaster[1] a gorchmynnwyd iddo dalu £1,000 mewn dirwyon a chostau.[2] Collodd ei swydd o ganlyniad.[2]
Mae nifer wedi condemnio'r dyfarniad a'i alw'n annheg,[4][5][6] ac eraill wedi ei alw'n enghraifft o gamwedd cyfiawnder.[7]
Collodd Chambers apêl yn erbyn y dyfarniad yn Nhachwedd 2010. Clywodd y Barnwraig Jacqueline Davies ei apêl yn Llys y Goron, Doncaster; dywedodd bod y neges yn cynnwys "bygythiad" (menace) a rhaid bod Chambers wedi sylweddoli y byddai'r neges yn cael ei hystyried o ddifrif.[8] Ymatebodd miloedd o ddefnyddwyr Twitter trwy ail-bostio neges Chambers gan gynnwys y hashnod #iamspartacus, gan gyfeirio at y ffilm Spartacus.[9][10]
Ar 8 Chwefror 2012, ymddangosodd Chambers yn yr Uchel Lys Barn i ofyn i'r barnwyr wrthdroi'r dyfarniad.[11]
Cynigodd y cyflwynydd teledu Stephen Fry i dalu costau cyfreithiol Chambers.[12][13]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Wainwright, Martin (10 May 2010). "Wrong kind of tweet leaves air traveller £1,000 out of pocket - UK news - The Guardian". Guardian. London. Cyrchwyd 17 September 2010.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Chambers, Paul (11 May 2010). "My tweet was silly, but the police reaction was absurd - The Guardian". Guardian. London. Cyrchwyd 17 September 2010.
- ↑ http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2003/21/section/127
- ↑ "The Twitter "Bomb Hoax" case: worse than we thought?". 2010-03-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-12. Cyrchwyd 19 September 2010.
- ↑ Mitchell, David (16 May 2010). "Sacked and fined £1,000 for a joke about an airport? - David Mitchell column - The Observer". Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-21. Cyrchwyd 19 September 2010.
- ↑ Cohen, Nick (19 September 2010). "Twitter and terrifying tale of modern Britain - The Observer". Guardian. London. Cyrchwyd 19 September 2010.
- ↑ "Jack of Kent: Why the Paul Chambers case matters". Blogger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-21. Cyrchwyd 19 September 2010.
- ↑ Wainwright, Martin (2010-11-11). "Twitter joke trial: Paul Chambers loses appeal against conviction". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 November 2010.
- ↑ Siddique, Haroon (2010-11-12). "#IAmSpartacus campaign explodes on Twitter in support of airport joker". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 November 2010.
- ↑ "Thousands of Twitter users express support for Chambers". 2010-11-12. Cyrchwyd 12 November 2010.
- ↑ http://www.guardian.co.uk/law/2012/feb/08/judgment-reserved-twitter-threat-appeal
- ↑ Siddique, Haroon (12 November 2010). "#IAmSpartacus campaign explodes on Twitter in support of airport joker". The Guardian. London.
- ↑ "Stephen Fry says British judges don't understand Twitter". BBC News. London. 8 February 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-23. Cyrchwyd 2012-04-02.