Achos llys y Verein KlimaSeniorinnen Schweiz yn erbyn y Bundesrat

Achos llys yn erbyn Llywodraeth y Swistir (sef y Bundesrat), a hynny gan griw o ferched yw'r hyn a elwir yn Verein KlimaSeniorinnen Schweiz yn erbyn Bundesrat.

Achos llys y Verein KlimaSeniorinnen Schweiz yn erbyn y Bundesrat
Y Bundeshaus, Bern, lle mae'r Bundesrat yn cyfarfod
Enghraifft o'r canlynoljudgment, achos gyfreithiol Edit this on Wikidata
Mathclimate justice in Switzerland Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi9 Ebrill 2024 Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Swistir Edit this on Wikidata

Y Bundesrat yw'r cyngor gweithredol saith-aelod sy'n ffurfio llywodraeth ffederal Cydffederasiwn y Swistir ac sy'n gwasanaethu fel pen y wladwriaeth a llywodraeth gyfunol y Swistir. Mae'n cwrdd yn adain orllewinol y Bundeshaus yn Bern. Mae'r Verein KlimaSeniorinnen yn undeb o ferched dros 75 oed. Nododd deiseb y menywod hyn fod eu grŵp demograffig yn arbennig o fregus mewn gwres uchel, yn dilyn newid hinsawdd.

Dywed gwefan y menywod, sef y 'KlimaSeniorinnen:[1]

Mae newid hinsawdd eisoes yn cynhyrchu difrod helaeth. Bydd tonnau gwres uchel a bygythiol, tirlithriadau a llifogydd yn dod yn norm oni bai ein bod yn gweithredu ar unwaith. Er gwaethaf prawf gwyddonol, nid yw'r Swistir ynghyd â'r mwyafrif o wledydd eraill yn gwneud llawer i osgoi trychinebau o'r fath. Oherwydd bod llywodraethau, trwy eu diffyg gweithredu, yn torri hawliau sylfaenol, mae mwy a mwy o bobl ledled y byd yn mynd â nhw i'r llys. Mae'r hyn sydd yn y fantol yn ddyfodol byw - heb gwymp yn yr hinsawdd.

2016 golygu

Yn 2016, ffeiliodd grŵp o ferched hŷn achos yn erbyn Llywodraeth y Swistir, gan honni bod y llywodraeth wedi methu â chynnal rhwymedigaethau o dan Gyfansoddiad y Swistir a Chonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) trwy beidio â llywio'r Swistir i leihau allyriadau nwyon ty gwydr.

Gofynnodd deiseb y menywod i’r ddeddfwrfa a’r asiantaethau ffederal sy’n gyfrifol am gludiant, warchod yr amgylchedd. Gofynnodd hefyd iddynt reoleiddio sawl sector er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i o leiaf 25% yn is na lefelau 1990 (erbyn 2020) ac o leiaf 50% yn is na lefelau 1990 (erbyn 2050). Beirniadodd y targedau sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd yn y ddeddfwrfa (20% erbyn 2020 a 30% erbyn 2030) a'r mesurau y byddai'r Llywodraeth yn eu dilyn er mwyn cyrraedd y targedau hynny.

Yn benodol, honnodd y deisebwyr (y menywod) fod y llywodraeth wedi torri erthyglau 10 (hawl i fywyd), 73 (egwyddor cynaliadwyedd), a 74 (egwyddor ragofalus neu'r precautionary principle), Cyfansoddiad y Swistir ac erthyglau 2 ac 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Tachwedd 2018 (Llys Gweinyddol Ffederal y Swistir) golygu

Gwrthododd Llys Gweinyddol Ffederal y Swistir yr achos ar y sail nad y menywod dros 75 oed oedd yr unig bobl yr oedd effeithiau newid hinsawdd yn effeithio arnynt.

Ionawr 2019 - Mai 2020 (Goruchaf Lys y Swistir) golygu

Yn Ionawr 2019 gwnaed apêl i Oruchaf Lys y Swistir, a wrthododd yr apêl ar 20 Mai 2020. Casgliad y Llys oedd nad oedd hawliau'r menywod wedi cael eu heffeithio'n ddigon drwg, a bod yn rhaid iddynt geisio ateb gwleidyddol.

Tachwedd 2020 (Llys Hawliau Dynol Ewrop) golygu

 
Llys Hawliau Dynol Ewrop

Ar 26 Tachwedd 2020, fe wnaeth menywod hŷn y Swistir ffeilio cais i Lys Hawliau Dynol Ewrop. Rhestrodd y cais dair prif gŵyn, ac yn eu plith bod polisïau hinsawdd y Swistir yn annigonol ac yn torri hawliau bywyd ac iechyd y menywod o dan Erthyglau 2 ac 8 o'r ECHR. Gwrthwynebodd Goruchaf Lys Ffederal y Swistir eu hachos ar sail fympwyol, 'yn groes i'r hawl i achos teg' o dan Erthygl 6; ac ni wnaeth awdurdodau a llysoedd y Swistir ddelio â chynnwys eu cwynion.[2]

Mawrth 2021 (yn ol i Lywodraeth y Swistir) golygu

Trosglwyddodd yr ECHR yr achos i Lywodraeth y Swistir ar 25 Mawrth 2021. Rhoddodd yr ECHR statws blaenoriaeth i’r achos a galwodd ar Lywodraeth y Swistir i ymateb erbyn 16 Gorffennaf 2021. Mae'r achos yn parhau.

Cyfeiriadau golygu

  1. klimaseniorinnen.ch; Teitl: English summary of our climate case; adalwyd 21 Mai 2021.
  2. climatecasechart.com; Archifwyd 2021-05-21 yn y Peiriant Wayback. Federal Supreme Court [of Switzerland], Public Law Division I, Judgment 1C_37/2019 of 5 Mai 2020. Verein KlimaSeniorinnen Schweiz et al. v. Federal Department of the Environment, Transport, Energy and Communications (DETEC). Ruling on real acts relating to climate protection. Appeal against the judgment of the Federal Administrative Court, Section 1, of 27 Tachwedd 2018 (A-2992/2017); adalwyd 21 Mai 2021.