Achos trais Steubenville
Achos o drais rhywiol yn erbyn merch yn Steubenville, Ohio, UDA, oedd achos trais Steubenville. Cafodd y ferch ei threiddio'n fyseddol pan oedd yn feddw ar noson 11/12 Awst 2012; yn ôl cyfraith Ohio mae byseddu heb gydsyniad yn drais.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sexual assault, Sgandal |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Lleoliad | Steubenville |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Cafodd cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio gan bobl ifanc yn Steubenville i ledaenu lluniau o'r trais, ond cafodd cyfryngau cymdeithasol hefyd eu defnyddio wrth i'r grŵp Anonymous a defnyddwyr ar-lein eraill defnyddio'r rhyngrwyd i dynnu sylw i'r achos.[2][3][4] Bu cryn beirniadaeth o awdurdodau a thrigolion Steubenville, oedd yn ôl rhai yn bychanu'r drosedd.[5]
Ar 17 Mawrth 2013 cafwyd Trent Mays, 17 oed, a Ma'lik Richmond, 16, yn euog o dreisio'r ferch.[1][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Walters, Joanna (17 Mawrth 2013). Two Steubenville football players found guilty of raping teenage girl at party. The Guardian. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Cohen, Adam (17 Mawrth 2013). Steubenville Rape Guilty Verdict: The Case That Social Media Won. TIME. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Ohio tension rises over Steubenville rape case. BBC (9 Ionawr 2013). Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Petrecca, Laura (19 Mawrth 2013). Steubenville rape case driven by social media. USA Today. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Walters, Joanna (17 Mawrth 2013). Steubenville rape trial forces depressed Ohio town to look inward for answers. The Guardian. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Almasy, Steve (17 Mawrth 2013). Two teens found guilty in Steubenville rape case. CNN. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.