Anonymous (cymuned)

Meme rhyngrwyd yw Anonymous (Saesneg am "ddienw"), sy'n gallu cyfeirio at gysyniad sy'n gyffredin i sawl defnyddiwr rhyngrwyd, cysyniad a rennir gan gymuned anffurfiol o ddefnyddwyr arlein, neu'r gymuned arlein honno ei hun, sy'n gweithredu'n ddienw mewn cytgord, fel arfer tuag at gyflawni bwriad y ceir cydsyniad cyffredinol yn ei gylch. Yn ogystal, mae'n label a ddefnyddir gan grwpiau o bobl ar y we, heb eu trefnu'n grwp fel y cyfryw, sy'n cyfuno i brotestio ac ar gyfer gweithrediadau eraill dan yr enw "Anonymous". Fel "grŵp" neu "gymuned" nid oes gan Anonymous unrhyw strwythur ffurfiol o gwbl.

Anonymous
Enghraifft o'r canlynolhacker group, mudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
SylfaenyddAubrey Cottle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyfyniad enwocaf o'r grŵp anhysbys yw

Rydyn ni'n anhysbys

Lleng ydyn ni

Nid ydym yn maddau

Nid ydym yn anghofio

Disgwyl ni.[1]

Gweithgareddau ar-lein dan enw Anonymous golygu

 
Nodyn gan Operation Payback yn galw am gefnogi WikiLeaks, Rhagfyr 2010.
 
Operation Tiwnisia, Anonymous.

Ar ôl cyfres o brotestiadau dadleuol a gawsant sylw eang, yn cynnwys cyfres o ymosodiadau DDoS yn 2008, daeth digwyddiadau ar y we a gysylltir â phrif actifyddion Anonymous yn fwy cyffredin. Gelwir y math yma o brostest arlein uniongyrchol yn "wrthsafiad heb arweinydd".

Mae'r defnydd o'r enw "Anomymous" arlein yn gysylltiedig gyda byrddau delwedd (imageboards) a fforymau rhyngrwyd, lle mae'n gyffrdin i gyfranwr arwyddo fel "Anomymous" neu "Anon" yn lle defnyddio ffug enw personol. Fel ffenonomen neu "gymuned" arlein mae Anonymous yn anodd i'w diffinio'n ffurfiol. Cynigiodd Chris Landers un "diffiniad" gwirebol yn 2008: "[Anonymous is] the first internet-based superconsciousness. Anonymous is a group, in the sense that a flock of birds is a group. How do you know they're a group? Because they're travelling in the same direction. At any given moment, more birds could join, leave, peel off in another direction entirely."[2]

Y gweithrediadau diweddaraf a gysylltir ag Anonymous yw'r gyfres o ymosodiadau DDoS anferth mewn ymateb i'r ymosodiadau ar WikiLeaks yn dilyn dechrau cyhoeddi'r dogfennau "Cablegate" ar 28 Tachwedd 2010. Newidiodd y gymuned "Operation Payback", a fu'n gyfrifol am sawl weithred cyn hynny, ei ffocws i gefnogi WikiLeaks a lawnsiodd ymosodiadau DDoS yn erbyn PayPal, MasterCard, Visa a'r banc Swisaidd PostFinance, i dalu'r pwyth yn ôl am yr ymosodiadau ar WikiLeaks a'i brif olygydd Julian Assange, wrth yr enw Operation Avenge Assange.[3]

Ar 2 Ionawr 2011, hawliodd adran o Anonymous y cyfrifoldeb am dynnu i lawr holl wefannau llywodraeth Tiwnisia. Roedd hynny am fod llywodraeth Zine el-Abidine Ben Ali wedi rhwystro mynediad at wefan WikiLeaks i ddinesyddion Tiwnisia ac er mwyn cefnogi y chwyldro poblogaidd yn Tiwnisia a ddechreuodd yn Rhagfyr 2010.[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Anonymous History | Who Started Anonymous Group". Anonymous Hackers (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-29.
  2. Chris Landers, "Serious Business: Anonymous Takes On Scientology (and Doesn't Afraid of Anything)", Baltimore City Paper, 2008.04.02.
  3. "‘Tis the Season of DDoS – WikiLeaks Edition", PandaLabs. 12.11.2010.
  4. Tunisia under attack by Anonymous; press release ar wefan Al-Nawaat
  5. Dailykos.com

Dolenni allanol golygu