Meddwdod yw'r stad o fod wedi gormod o alcohol neu gyffuriau.

Mae'r diffiniad cyfreithiol yn fwy manwl a nodir mai meddwdod yw lle mae diffynnydd sydd wedi'i gyhuddo o drosedd bwriad penodol wedi'i feddwi gymaint gan gyffuriau neu alcohol fel ei fod yn analluog i ffurfio'r mens rea ar gyfer y drosedd, bydd fel arfer yn cael ei ryddfarnu.[1]

Nid yw meddwdod yn amddiffyniad i droseddau bwriad sylfaenol neu i droseddau bwriad penodol lle bydd byrbwylltra yn ddigon. Ni ellir byth ddefnyddio meddwdod fel amddiffyniad lle mae'r diffynnydd wedi meddwi'i hun yn fwriadol er mwyn hel y dewrder angenrheidiol i droseddu. Mae meddwdod hefyd yn elfen mewn nifer o droseddau, e.e. gyrru, neu fod yng ngofal cerbyd neu arall, tra dan ddylanwad y ddiod neu gyffuriau - adran 4 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988, a gyrru neu bod yng ngofal cerbyd modur gyda chrynodiad alcohol yn uwch na'r terfyn a ragnodwyd - adran 5 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Adran 6 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 – '(6)…"intoxication" means any intoxication, whether caused by drink, drugs or other means, or by a combination of means.'
  2. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.